Llwybrau atgyfeirio

Mewn Gofal Sylfaenol ar draws y DU, cynhelir bron i 900,000 o ymgynghoriadau meddygon teulu bob dydd. 14 Mae’r claf cyfartalog yn mynd i weld ei feddyg teulu 4 gwaith y flwyddyn. 15  Yn ystod yr ymweliadau yma mae yna ddigon o gyfle i’r meddyg teulu, y nyrs practis a’r cymhorthydd gofal iechyd hyrwyddo ymarfer corff fel rhan o ffordd o fyw buddiol ac fel ffordd o drin nifer o glefydau. Mewn Gofal Eilaidd, cynhelir llawer o filoedd o ymgynghoriadau gyda chleifion allanol a mewnol pryd y dylid ymgorffori cyngor ynghylch ymarfer corff i’r cynllun triniaeth.

Mae’r rhan fwyaf o gleifion angen eu hannog i fod yn fwy actif drwy dechnegau arwain syml drwy gyfrwng Cyfweld Ysgogiadol a chyngor syml ynghylch hyrwyddo gweithgaredd a dechrau gwneud ymarfer corff. Nid yw llawer o gleifion eisiau mynd i’r gampfa, gan ffafrio cerdded, seiclo, nofio a dawnsio, ac mae rhoi cyngor ar hynny yn rhan o rôl unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol.

Wrth i gleifion gyflwyno mwy o broblemau cymhleth, gydag un neu ragor o gydafiacheddau, efallai bydd meddygon a nyrsys yn ffafrio atgyfeirio at Gynlluniau Ymarfer Corff Lleol neu ffisiotherapyddion, yn ddibynnol ar yr amodau a lefel y risg er mwyn cael mwy o gyngor manwl. Ond, mae yna dal lawer o anogaeth syml y gellir ei roi ynghylch cerdded, garddio a gwaith tŷ, ellir ei wneud yn gyfochrog, a bydd y rhan fwyaf o’r cleifion yn elwa o hynny.

Yn achos nifer fach o gleifion bydd angen adsefydlu mewn perthynas â’u gweithgaredd gan ffisiotherapyddion arbenigol neu hyfforddwr campfa lefel uchel 4, neu drwy unedau pwlmonari neu adsefydlu cardiaidd. Efallai byd angen asesu rhai o’r cleifion yma  gan feddygon ymgynghorol Cardiaidd, Anadlol, neu Feddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff (SEM) os ydynt ar gael.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau