Meysydd Blaenoriaeth: Defnyddio gwrthgeulyddion i drin ffibriliad atrïaidd

Mae data o Archwiliad Strôc Sentinel 2019-2020 yn dangos bod 64% o gleifion ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y cafwyd eu bod â ffibriliad atrïaidd cyn cael strôc yn rhai a oedd yn cymryd meddyginiaeth gwrthgeulyddion. Er bod y ffigur hwn wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, mae cyfran fawr o hyd o gleifion y cafwyd eu bod â FfA sy’n wynebu risg fwy o gael strôc am nad ydynt yn cymryd gwrthgeulyddion. Mae hyn yn dangos yr angen i bennu pwy yw’r cleifion hyn ac adolygu eu meddyginiaethau.

Mae’n bwysig bod cleifion â FfA sydd wedi gwrthod gwrthgeulyddion yn adolygu’r penderfyniad hwn ar y cyd â’u presgripsiynydd bob blwyddyn o leiaf.

Delwedd yn dangos tabl yn crynhoi manylion y dangosydd gwrthgeulyddion mewn ffibriliad atrïaidd

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon

  • Mae ffibriliad atrïaidd yn achosi tua 20% o strociau. Fodd bynnag, gellir lleihau’r ganran hon o tua dwy ran o dair os bydd pobl yn cymryd gwrthgeulyddion.
  • Mae canllawiau NICE yn argymell bod cleifion â ffibriliad atrïaidd yn cael eu hasesu am y risg o gael strôc drwy ddefnyddio’r sgôr CHA2DS2VASc.
  • Mae oedolion sydd â ffibriliad atrïaidd anfalfaidd a sgôr CHA2DS2VASc o 2 neu fwy yn wynebu risg fwy o lawer o gael strôc na’r boblogaeth gyffredinol, felly dylent gael meddyginiaeth gwrthgeulo.
  • Mae NICE yn argymell cymryd apicsaban, dabigatran etecsilad, edocsaban, rifarocsaban neu wrthweithydd Fitamin K ar gyfer gwrthgeulo.

Canran y cleifion â AF a sgôr CHA2DS2-VASc o 2 neu fwy sy'n cael eu trin ar hyn o bryd gyda therapi gwrthgeulo – chwarter yn diweddu Mawrth 2019

Canran y cleifion a AF a sgor CHA2DS2 VASc o 2 neu fwy syn cael eu trin ar hyn o bryd gyda therapi gwrthgeulo

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon

Sylwer mai dim ond hyd at Fawrth 2019 y mae’r data hyn ar gael a’u bod felly’n gymwys i strwythur blaenorol y byrddau iechyd

Sut y gellir gwneud newidiadau?

  • Dylai cleifion â FfA parhaus neu barhaol gael eu hasesu am y risg o gael strôc gan ddefnyddio’r sgôr CHA2DS2VASc.
  • Ar gyfer cleifion sydd â sgôr CHA2DS2VASc o 2 neu fwy, dylid cynnig meddyginiaeth gwrthgeulo, gan gymryd i ystyriaeth y risg o waedu sydd gan y claf.

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau