Maes Blaenoriaeth - Stiwardiaeth
Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn fygythiad cynyddol i iechyd y byd, ac mae achosion achlysurol o ‘archfygiau’ na ellir eu trin yn digwydd mewn ysbytai ledled y DU erbyn hyn. Yr amcangyfrif presennol yw bod tua 700,000 o bobl yn marw bob blwyddyn drwy’r byd o ganlyniad i haint a achoswyd gan yr organebau hyn ac, os na chymerir camau i’w hatal, y gallai’r ffigur hwnnw godi i 10 miliwn erbyn 2050, sy’n fwy na nifer y marwolaethau o ganlyniad i ganser a malaria.
Bydd y maes blaenoriaeth hwn yn helpu’r DU i gyrraedd y targedau sydd yng Nghynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU – Mynd i’r Afael ag Ymwrthedd Gwrthficrobaidd 2019-2024
Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon
- Yn 2015, roedd aelod-wladwriaethau Sefydliad Iechyd y Byd wedi cymeradwyo Cynllun Gweithredu Byd-eang a oedd yn cynnwys pum amcan strategol allweddol.
- Mae’r cynllun gweithredu hwn yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu a chyflawni Cynlluniau Gweithredu Cenedlaethol gan yr aelod-wladwriaethau eu hunain.
- Mae’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU – Mynd i’r Afael ag Ymwrthedd Gwrthficrobaidd 2019-2024 presennol yn canolbwyntio ar leihau’r angen am gyffuriau gwrthficrobaidd a lleihau’r cysylltiad anfwriadol â’r cyffuriau hynny, er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl o gyffuriau gwrthficrobaidd, a buddsoddi mewn arloesi, cyflenwi a mynediad er mwyn mynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd.