Effeithlonrwydd – Meddyginiaethau biolegol gwerth gorau

Meddyginiaethau biolegol yw’r rheini sy’n cael eu gwneud neu sy’n tarddu o ffynhonnell fiolegol ac sydd, oherwydd hynny, yn gymhleth ac sydd â strwythur newidiol cynhenid.

Mae meddyginiaethau biodebyg yn feddyginiaethau biolegol sydd wedi’u datblygu i fod yn debyg iawn ac yn glinigol gyfwerth â meddyginiaethau biolegol presennol.

Drwy barhau i ddatblygu meddyginiaethau biolegol, yn cynnwys meddyginiaethau biodebyg, ceir mwy o ddewis i gleifion a chlinigwyr, mwy o gystadlu masnachol a’r posibilrwydd o gael gwerth ychwanegol o feddyginiaethau penodol.

Nod y dangosydd hwn yw cynyddu’r defnydd priodol o feddyginiaethau biolegol gwerth gorau, yn cynnwys meddyginiaethau biodebyg.

 

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon

  • Mae meddyginiaethau biodebyg yn “feddyginiaethau biolegol sydd wedi’u datblygu i fod yn debyg iawn ac yn glinigol gyfwerth â meddyginiaethau biolegol presennol”.
  • Gosodwyd targed i gynyddu’r defnydd priodol o feddyginiaethau biolegol costeffeithlon, yn cynnwys meddyginiaethau biodebyg, yn unol â’r canllawiau.
  • Rhaid i feddyginiaethau biolegol, yn cynnwys yr holl feddyginiaethau biodebyg, gael eu rhagnodi gan roi enw’r brand.
  • O fewn y pum mlynedd nesaf, bydd yr hawliau patent ar nifer o feddyginiaethau biolegol yn dod i ben fel y bydd mwy o gyfle i ragnodi meddyginiaethau biodebyg.
  • Y meddyginiaethau biolegol â fersiynau biodebyg sydd ar gael i’w defnyddio yn GIG Cymru yr adroddir amdanynt ar hyn o bryd o dan yr NPI hwn yn 2021–2022 yw:
    • Infliximab – Inflectra®▼
    • Etanercept – Benepali®▼, Erelzi®▼
    • Rituximab – Truxima®▼
    • Trastuzumab – Ontruzant®▼
    • Adalimumab – Amgevita®▼, Hulio®▼, Hyrimoz®▼, Imraldi®▼
    • Teriparatide – Movymia®▼, Terrosa®▼

Tueddiad mewn ganran o feddyginiaethau biodebyg

Yn aml, bydd meddyginiaethau biolegol yn cael eu cyflenwi i gleifion drwy gyfrwng gofal cartref, a dylid nodi nad yw’r holl ddata am feddyginiaethau gofal cartref yn cael eu cofnodi ar hyn o bryd yn y system data presgripsiynau gofal eilaidd. Er bod gwaith mewn llaw ar y mater hwn, mae’n bosibl o ganlyniad fod yr adroddiadau ar y defnydd o rai meddyginiaethau yn anghyflawn ar hyn o bryd. 

 Tueddiad mewn graff ganran o feddyginiaethau biodebyg

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon 

Mae’n bwysig bod y newid o gynnyrch cyfeirio i gynnyrch biodebyg (ac yn wir rhwng meddyginiaethau biodebyg) yn cael ei reoli yn ôl disgresiwn y presgripsiynydd mewn partneriaeth â’r claf, gyda monitro priodol.

Sut y gellir gwneud newidiadau?

  • Lle mae AWMSG neu NICE wedi argymell y feddyginiaeth gyfeirio, bydd yr un canllawiau’n gymwys fel arfer i’r feddyginiaeth fiodebyg.
  • Ar adeg dosbarthu’r presgripsiwn, rhaid peidio â chyfnewid y feddyginiaeth gyfeirio am feddyginiaeth fiodebyg yn awtomatig. Felly, y clinigydd, drwy ymgynghori â’r claf, a ddylai benderfynu a fydd y feddyginiaeth gyfeirio neu’r feddyginiaeth fiolegol fiodebyg yn cael ei rhagnodi ar gyfer y claf.
  • Rhaid i’r holl feddyginiaethau biolegol, yn cynnwys meddyginiaethau biodebyg, gael eu rhagnodi gan roi enw’r brand.

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau