Effeithlonrwydd – Inswlin

Mae Canllaw presennol NICE ar reoli diabetes math 2 yn argymell, lle mae’r rheolaeth ar glwcos gwaed yn parhau neu’n dechrau troi’n annigonol wrth dderbyn therapi gwrth-ddiabetig drwy’r geg, y dylid ystyried inswlin yn opsiwn nesaf ar gyfer triniaeth. Inswlin isoffan dynol, a elwir yn NPH fel arfer, sydd wedi’i argymell fel y dewis cyntaf ar gyfer trin y rhan fwyaf o bobl.

Nod y dangosydd yw lleihau’r rhagnodi ar gyfer cydweddau inswlin cyfnod hir.

Delwedd yn dangos tabl yn crynhoi manylion y dangosydd cydweddau inswlin cyfnod hir 

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon

  • Nid oes tystiolaeth sy’n awgrymu bod cydweddau inswlin cyfnod hir yn rhagori ar inswlin NPH.
  • Mae NICE yn argymell NPH yn ddewis cyntaf ar gyfer trin y rhan fwyaf o bobl cyn ystyried cydweddau inswlin cyfnod hir (NG28, 2020).

Tueddiad mewn rhagnodi cydweddau cyfnod hir fel canran o gyfanswm yr inswlin cyfnod hir a chanolig a ragnodwyd mewn gofal sylfaenol

Tueddiad mewn graff rhagnodi cydweddau cyfnod hir fel canran o gyfanswm yr inswlin cyfnod hir a chanolig a ragnodwyd mewn gofal sylfaenol

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon 

Sut y gellir gwneud newidiadau?

  • Dylai cleifion gael cyfle i wneud penderfyniadau seiliedig ar wybodaeth am eu gofal a’u triniaeth, mewn partneriaeth â’u gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Dylid trafod effeithiolrwydd cymharol y mathau penodol o inswlin gyda’r claf a chael gwybod am unrhyw beth sy’n well ganddo.
  • Wrth ddechrau rhoi therapi inswlin i gleifion, dylid dilyn rhaglen strwythuredig ar gyfer titradu dosau. Yn ogystal â hyn, dylai’r rhaglen gynnwys technegau chwistrellu, cymorth parhaus dros y ffôn, hunanfonitro, deall deiet, canllawiau’r DVLA, rheoli hypoglycemia, delio â newidiadau acíwt wrth reoli glwcos plasma, a chymorth gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol profiadol sydd wedi cael ei hyfforddi’n briodol.

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau