Diogelwch – Cyffuriau Hypnotig a Chyffuriau Lleihau Gorbryder

Mae’r problemau sy’n gysylltiedig â chyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder yn gyfarwydd. Dylid osgoi defnyddio bensodiasepinau a chyffuriau ‘z’ i drin pobl oedrannus gan eu bod yn wynebu risg fwy o ddod yn afreolus a dryslyd, ac o gael cwympiadau ac anafiadau o ganlyniad i hynny.

Gellir cael dibyniaeth gorfforol a seicolegol, yn ogystal â goddefiad, a gall hyn ei gwneud yn fwy anodd diddyfnu o’r cyffur wedi i’r claf ei gymryd yn rheolaidd am fwy nag ychydig wythnosau.

Er bod lle i ddefnyddio cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder yn y tymor byr, nod y dangosydd yw lleihau rhagnodi amhriodol.

Delwedd yn dangos tabl yn crynhoi manylion y dangosydd Diogelwch Cyffuriau Hypnotig a Chyffuriau Lleihau Gorbryder

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon

  • Mae lefel y cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder sy’n cael eu rhagnodi yn GIG Cymru yn uchel o’i chymharu â Lloegr.
  • Mae’r problemau sy’n gysylltiedig â bensodiasepinau (e.e. goddefiad, dibyniaeth, diddyfnu sy’n achosi anhunedd) yn gyfarwydd, ac mae nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â bensodiasepinau wedi cynyddu.
  • Rydym yn gwybod bod cymryd cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder yn cynyddu’r risg o gwympo yn sylweddol.

Tueddiad mewn rhagnodi cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder

Er bod y graff tueddiadau yn dangos bod maint y cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder a roddir ar bresgripsiwn yng Nghymru wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r cyfraddau rhagnodi yn amrywio’n sylweddol rhwng byrddau iechyd, a rhwng practisau meddygon teulu.

Tueddiad mewn graff rhagnodi cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon

Yn gyffredinol, mae lefel y cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder a roddir ar bresgripsiwn yng Nghymru yn parhau’n uchel o’i chymharu â Lloegr, gan fod pump o’r saith bwrdd iechyd yn y chwartel uchaf ar gyfer rhagnodi o’u cymharu â Grwpiau Comisiynu Clinigol yn Lloegr.

Cyffuriau Hypnotig a Chyffuriau Lleihau Gorbryder ADQs fesul 1,000 STAR-PUau -  Chwarter yn diweddu Rhagfyr 2020

Tueddiad mewn siart rhagnodi cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder 

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon

Mae AWMSG wedi datblygu pecyn adnoddau sy’n cynnwys llawer o ddeunyddiau i gleifion a phresgripsiynwyr i helpu i adolygu a lleihau maint y cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder a roddir ar bresgripsiwn.

Mae’r pecyn yn cynnwys canllawiau ar gyfer lleihau dosau a diddyfnu, protocolau lleihau dosau ac offer asesu, yn ogystal â thaflenni gwybodaeth ac arweiniad i gleifion. 

Sut y gellir gwneud newidiadau?

  • Ystyried rhagnodi cyffuriau hypnotig dim ond ar ôl edrych ar therapïau heblaw cyffuriau.
  • Wrth ragnodi cyffuriau hypnotig, defnyddio’r dos isaf posibl dros y cyfnod byrraf posibl ac yn hollol gyson â’r arwyddion y maent wedi’u trwyddedu ar eu cyfer; dim mwy na phedair wythnos.
  • Peidio â chynnig bensodiasepinau i drin anhwylder gorbryder cyffredinol, ac eithrio fel mesur tymor byr yn ystod argyfyngau.
  • Ystyried lleihau’r dosau o gyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder bob amser lle y bo’n briodol.
  • Cynnal yr archwiliad o gyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder sydd ym Mhecyn Addysgol AWMSG: Materials to Support Appropriate Prescribing of Hypnotics and Anxiolytics across Wales.
  • Defnyddio’r adnoddau ar leihau/diddyfnu o gyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder ym Mhecyn Addysgol AWMSG.

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau