Meysydd Blaenoriaeth: Defnyddio gwrthgeulyddion i drin ffibriliad atrïaidd: Cyflwyniad
Ffibriliad atrïaidd yw'r arhythmia cardiaidd mwyaf cyffredin, gyda 750,000 o gleifion yng Nghymru yn byw gyda'r cyflwr. Mae ffibriliad atrïaidd yn achosi tua 20% o strociau, ond gellir lleihau hyn ddwy ran o dair os yw pobl yn wrthgeulo.
Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon
Mae’r maes blaenoriaeth hwn yn cynnwys nifer o fesurau sy’n ymwneud â’r defnydd o wrthgeulyddion a meddyginiaeth gwrthblatennau i drin cleifion y cafwyd eu bod â ffibriliad atrïaidd, er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael triniaeth briodol ac adolygiad o’u meddyginiaeth gwrthgeulo. Mae’r dangosyddion hyn yn helpu i weithredu nifer o ddatganiadau ansawdd a luniwyd gan NICE mewn perthynas â ffibriliad atrïaidd. Hefyd, mae’r dangosyddion yn gyson â nod prosiect Atal Strôc i helpu byrddau iechyd yng Nghymru i ymgymryd â dull cynaliadwy o adolygu triniaeth cleifion â ffibriliad atrïaidd er mwyn lleihau’r risg o gael strôc.