Diogelwch – Cardiau Melyn

Mae’r Cynllun Cardiau Melyn yn hanfodol i helpu’r MHRA i fonitro diogelwch yr holl gynhyrchion gofal iechyd yn y DU er mwyn sicrhau bod eu diogelwch ar lefel sy’n dderbyniol i’r rheini sy’n eu defnyddio.

Mae adroddiadau Cardiau Melyn yn helpu i nodi a choladu gwybodaeth am Adweithiau Niweidiol i Gyffuriau (ADRs) na chafwyd gwybodaeth amdanynt o’r blaen.

Mae adweithiau niweidiol i gyffuriau yn broblem glinigol sylweddol sy’n cynyddu cyfraddau afiachedd a marwolaethau ac mae astudiaethau wedi dangos mai adweithiau niweidiol i gyffuriau sy’n arwain at 6.5% o’r derbyniadau i ysbytai ymysg oedolion. Diffiniwyd adwaith niweidiol i gyffuriau fel a ganlyn: “ymateb i gynnyrch meddyginiaethol sy’n niweidiol ac yn anfwriadol, sy’n ganlyniad nid yn unig i’r defnydd awdurdodedig o gynnyrch meddyginiaethol ar ddosau arferol ond hefyd i gamgymeriadau o ran meddyginiaeth a defnydd sydd y tu allan i delerau’r awdurdodiad marchnata, yn cynnwys camddefnyddio’r cynnyrch meddyginiaethol”.

Nod yr NPI hwn yw hyrwyddo cynnydd yn nifer yr adroddiadau a wneir a sicrhau bod hyn yn rhan annatod o ymarfer rheolaidd.

 Delwedd yn dangos tabl yn crynhoi manylion y dangosydd Adrodd Cerdyn Melyn

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon

  • Mae adweithiau niweidiol i gyffuriau yn broblem glinigol sylweddol sy’n cynyddu cyfraddau afiachedd a marwolaethau.
  • Mae’r Cynllun Cardiau Melyn yn hanfodol i helpu’r MHRA i fonitro diogelwch yr holl gynhyrchion gofal iechyd yn y DU er mwyn sicrhau bod eu diogelwch ar lefel sy’n dderbyniol i’r rheini sy’n eu defnyddio.
  • Mae adroddiadau Cardiau Melyn yn helpu i nodi a choladu gwybodaeth am Adweithiau Niweidiol i Gyffuriau na chafwyd gwybodaeth amdanynt o’r blaen.

Tueddiad mewn cyflwyno Adroddiadau Cardiau Melyn

Er bod nifer yr adroddiadau’n cynyddu’n gyffredinol, mae pryderon wedi’u mynegi nad yw wedi dod yn arfer rheolaidd eto ymysg yr holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol. 

Tueddiad mewn graff cyflwyno Adroddiadau Cardiau Melyn  

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon

Sylwer: cyn y chwarter blwyddyn a ddaeth i ben ym Mehefin 2019, mae’r data sydd wedi’u dangos ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn ymwneud â byrddau iechyd blaenorol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg, yn y drefn honno.

Y targed mewn gofal sylfaenol ar gyfer y dangosydd hwn yw y bydd pob practis meddyg teulu yn cyflwyno un neu ragor o Gardiau Melyn am bob 2,000 o boblogaeth y practis bob blwyddyn.

Mae’r graff isod yn dangos canran y practisau meddygon teulu ym mhob bwrdd iechyd a oedd wedi cyrraedd y targed yn ystod 2019-2020.

Canran y practisau meddygon teulu sy’n cyrraedd y targed o gyflwyno un Cerdyn Melyn am bob 2,000 o boblogaeth y practis yn 2019–2020

Tueddiad mewn siart cyflwyno Adroddiadau Cardiau Melyn  

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon

Mae gallu’r cynllun Cardiau Melyn i ganfod arwyddion newydd o ran diogelwch cyffuriau yn dibynnu am ei effeithiolrwydd ar adroddiadau am amheuon ac arsylwadau.

Gellir defnyddio Cardiau Melyn i adrodd am amheuon am adweithiau niweidiol i feddyginiaethau, brechlynnau a chynhyrchion llysieuol.

Dylech adrodd am bob adwaith niweidiol i gyffuriau a amheuir sydd:

  • yn ddifrifol, o arwyddocâd meddygol, yn arwain at niwed, neu sy’n gysylltiedig â chamgymeriadau meddyginiaeth lle mae niwed yn digwydd.
  • Digwyddiadau difrifol yw’r rheini sy’n angheuol, yn peryglu bywyd, yn annormaledd cynhenid, yn anablu neu’n analluogi, neu’n arwain at dderbyn claf i’r ysbyty

Yn ogystal â hyn, dylech adrodd am yr holl adweithiau niweidiol i gyffuriau a amheuir sydd:

  • yn gysylltiedig â chyffuriau a brechlynnau mwy diweddar, sydd wedi’u dangos gan y triongl du, pa un a ydynt yn ddifrifol neu beidio.  Mae’r rhestr ddiweddaraf o feddyginiaethau triongl du ar gael ar wefan yr MHRA.
  • Os nad ydych yn sicr a ddylech wneud adroddiad neu beidio, llenwch Gerdyn Melyn. Gellir annog cleifion i lenwi Cardiau Melyn hefyd. Gall y system adnabod cofnodion dyblyg, felly llenwch Gerdyn Melyn hyd yn oed os ydych yn credu bod adroddiad wedi’i gyflwyno’n barod. Mae gwybodaeth ychwanegol yn gallu cyfrannu ymhellach at ystyried yr achos.

Mae amheuaeth bod adwaith niweidiol wedi’i achosi gan feddyginiaeth yn ddigon i wneud adroddiad amdano.

Sut y gellir gwneud newidiadau?

  • Gellir cwblhau adroddiadau Cerdyn Melyn:
  • Ar-lein: mhra.gov.uk/yellowcard
  • Drwy ddefnyddio’r ap Cardiau Melyn am ddim
  • Drwy system ragnodi INPS Vision
  • Drwy ysgrifennu at RHADBOST CERDYN MELYN
  • Drwy e-bostio i: yellowcard@mhra.gov.uk
  • Drwy lawrlwytho o’r wefan
  • Mae amheuaeth bod adwaith niweidiol wedi’i achosi gan feddyginiaeth yn ddigon i wneud adroddiad amdano.
  • Peidiwch â chymryd y bydd rhywun arall yn gwneud adroddiad am adwaith niweidiol i gyffuriau rydych chi wedi’i weld.
  • Gellir gwneud adroddiadau am bob math o feddyginiaethau, yn cynnwys brechlynnau, ffactorau gwaed ac imiwnoglobwlinau, meddyginiaethau llysieuol a rhwymedïau homeopathig, ac am yr holl ddyfeisiau meddygol sydd ar gael ar y farchnad yn y DU.
  • Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Ganolfan Cardiau Melyn Cymru.

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau