Mesurau presgripsiynu – Mesurau Nifer ac Enwaduron

Mesurau Nifer

Mesurau presgripsiynu

Mae data ar gyfer mwyafrif yr NPIs yn cael eu casglu o ddata prisio presgripsiynau ac maent felly’n adlewyrchu eitemau sydd wedi’u dosbarthu. Nid yw’r data yn cynnwys eitemau sydd wedi’u rhagnodi ond sydd heb eu cyflwyno i’w dosbarthu. Gellir defnyddio’r data hyn mewn gwahanol ffyrdd i ddangos nifer yr eitemau sydd wedi’u presgripsiynu.

Eitemau presgripsiwn

Eitemau presgripsiwn yw nifer yr eitemau ar bresgripsiwn. Mae’n briodol defnyddio eitemau fel mesur presgripsiynu ar gyfer triniaethau acíwt fel gwrthfiotigau a brechlynnau, yn ogystal ag anadlyddion ac elïoedd, gan ei fod yn mesur pa mor aml y mae presgripsiynydd wedi penderfynu ysgrifennu presgripsiwn. Nid yw nifer yr eitemau presgripsiwn yn cymryd i ystyriaeth y meintiau sy’n cael eu rhagnodi.

Dosau dyddiol diffiniedig (DDDau)

Mae mesur nifer yr eitemau presgripsiwn yn anfoddhaol mewn nifer o achosion. Er mwyn datrys hyn, mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datblygu’r ‘Dos Dyddiol Diffiniedig’, neu DDD. Mae hon yn uned mesur sy’n cynrychioli’r dos cynnal cyfartalog tybiedig y dydd ar gyfer meddyginiaeth pan gaiff ei defnyddio at y prif arwydd ar ei chyfer mewn oedolion. Nid yw o reidrwydd yn ddos gwirioneddol neu’n ddos sydd wedi’i argymell.  Oherwydd y rhagdybiaeth bod y DDD ar gyfer un feddyginiaeth yn cyfateb o ran ei weithrediad i’r DDD ar gyfer meddyginiaeth arall a ddefnyddir at ddiben tebyg, gellir adio nifer y DDDau ar gyfer dwy neu ragor o gyffuriau o’r fath at ei gilydd. Y fantais yn hyn o beth yw bod modd cymharu meddyginiaethau yn yr un dosbarth therapiwtig.

Meintiau dyddiol cyfartalog (MDCau/ADQs)

Mae meintiau dyddiol cyfartalog (MDCau) yn estyniad i DDDau ac fe’u defnyddir ar gyfer meddyginiaethau lle cafwyd bod y DDD yn anfoddhaol yn y DU, oherwydd gwahaniaethau rhwng presgripsiynu yn y DU ac mewn gwledydd tramor. Mae MDCau yn cymryd i ystyriaeth y DDD, ond hefyd yn ystyried y Dos Dyddiol ar Bresgripsiwn sy’n adlewyrchu’r defnydd gwirioneddol gan feddygon teulu. Unwaith eto, mae MDCau yn uned mesur, yn hytrach na dos gwirioneddol.

Enwaduron

Mae nifer yr eitemau presgripsiwn a’u cost o fewn sefydliad penodol yn amrywio yn ôl maint a natur y boblogaeth a wasanaethir. Felly, er mwyn gallu cymharu rhwng gwahanol fyrddau iechyd, clystyrau a phractisau meddygon teulu, mae angen cael ffordd i bwysoli data am bresgripsiynu er mwyn cymryd hyn i ystyriaeth.

Cleifion

Gellir cyflwyno data ar gyfer pob 1,000 o gleifion. Fodd bynnag, dim ond wrth fonitro rhywbeth nad yw’n agored i ddylanwad oed a rhywedd y bydd hyn yn ddefnyddiol.

Unedau Presgripsiynu (UPau)

Cyflwynwyd Unedau Presgripsiynu (UPau) i adlewyrchu’r angen mwy sydd gan gleifion hŷn am feddyginiaethau. Mae cleifion sy’n 65 oed ac yn hŷn yn cael eu cyfri’n 3 uned presgripsiynu, a chleifion sy’n iau na 65 oed yn cael eu cyfri’n 1 uned presgripsiynu.

Unedau presgripsiynu sy’n gysylltiedig ag oed-rhyw ar gyfer grwpiau therapiwtig penodol (STAR-PUs)

Datblygwyd STAR-PUs ar gyfer meysydd therapiwtig lle mae gwahaniaethau o ran oed a rhyw ymysg y cleifion y mae cyffuriau mewn grwpiau therapiwtig penodol yn cael eu rhagnodi ar eu cyfer fel arfer, er enghraifft, gwrthfiotigau.

Yn Lloegr y datblygwyd UPau a STAR-PUs. Fodd bynnag, mae gwaith wedi’i gyflawni i sicrhau bod y mesurau hyn yn berthnasol i boblogaeth Cymru a thrwy ddefnyddio’r mesurau hyn gellir meincnodi â Grwpiau Comisiynu Clinigol yn Lloegr.

Targedau a throthwyon

Mae targedau’r NPIs wedi’u seilio ar yr egwyddor o gymell yr holl fyrddau iechyd, clystyrau a phractisau meddygon teulu i wella presgripsiynu. Ar gyfer mwyafrif yr NPIs, mae hyn yn golygu cymell camau i gyrraedd y cyfraddau presgripsiynu yn y chwartel gorau. Ar gyfer pob NPI, mae trothwy’r chwartel hwn yn cael ei bennu ar sail y 25% o bractisau a oedd yn perfformio orau yn y chwarter blwyddyn a ddaeth i ben yn Rhagfyr 2020. Mae’r targedau ar gyfer pob NPI wedi’u dangos ym mhob rhan o’r modiwl.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau