Diogelwch – Atalyddion Pympiau Proton
Mae’r dystiolaeth gynyddol am y canlyniadau posibl o drin cleifion ag atalyddion pympiau proton dros gyfnod hir wedi arwain at eu cynnwys yn y parth diogelwch hwn yn y Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol.
Rhai enghreifftiau o effeithiau niweidiol yw haint C.difficile, risg gynyddol o dorri esgyrn a diffyg fitamin B12.
Nod y dangosydd hwn yw lleihau rhagnodi amhriodol mewn perthynas ag atalyddion pympiau proton ac atal triniaeth hirdymor i gleifion heb fod arwydd clir ar gyfer hynny.
Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon
- Yn ystod blwyddyn ariannol 2019–2020, dosbarthwyd mwy na 4.8 miliwn o bresgripsiynau am atalyddion pympiau proton yng Nghymru: mae hyn yn cyfateb i tua 11% o'r boblogaeth sydd wedi cael PPI.
- Mae tystiolaeth gynyddol o’r canlyniadau posibl i drin cleifion ag atalyddion pympiau proton dros gyfnod hir, yn cynnwys heintiadau C. difficile, toresgyrn a hypomagnesemia.
- Rhai effeithiau niweidiol difrifol eraill sy’n bosibl yw neffritis interstitaidd acíwt, diffyg fitamin B12 a gorsecretu asid adlam.
- Wrth ystyried yr effeithiau niweidiol dichonol, mae’n bosibl y bydd risgiau dichonol y driniaeth yn fwy na’r buddion dichonol, yn enwedig wrth drin cleifion sydd heb arwydd clir ar gyfer defnyddio atalyddion pympiau proton, neu lle mae’r claf yn wynebu risg fwy o brofi effeithiau niweidiol cysylltiedig â meddyginiaeth.
Tueddiad mewn rhagnodi atalyddion pympiau proton
Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon
DDDau atalyddion pympiau proton am bob 1,000 PUau - Chwarter yn diweddu Rhagfyr 2020
Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon
Sut y gellir gwneud newidiadau?
- Wrth ddechrau rhoi atalyddion pympiau proton, dim ond ar gyfer triniaethau byr (4 wythnos) y dylid eu hystyried lle bo angen, gan ddefnyddio presgripsiynau acíwt yn hytrach na rhai amlroddadwy.
- Gofalwch fod cyngor am ffordd o fyw yn cael ei roi ochr yn ochr â chyngor ar ailddechrau hunandriniaeth â therapi gwrthasid a/neu alginad.
- Adolygwch yr angen am bresgripsiwn pellach os bydd y claf yn gofyn am un, ac adolygwch bresgripsiynau tymor hir am atalyddion pympiau proton unwaith y flwyddyn o leiaf.
- Rhowch wybod i gleifion am yr effeithiau tymor hir posibl o ddefnyddio atalyddion pympiau proton gan ei bod yn bosibl y bydd hyn yn eu gwneud yn fwy parod i roi cynnig ar hunanofal i wella eu symptomau.
- Defnyddiwch daflen wybodaeth i gleifion AWMSG ‘Stopping Your PPI’ wrth ddechrau rhoi, wrth leihau ac wrth atal y defnydd o atalyddion pympiau proton.
- Defnyddiwch y pecyn cymorth archwilio ac adolygu ym mhecyn adnoddau AWMSG ar ddefnyddio Atalyddion Pympiau Proton yn ddiogel.
Sylwer - tarfu ar y cyflenwad o ranitidin
O ganlyniad i darfu ar y cyflenwad o ranitidin o Hydref 2019 a’r argymhelliad i newid i omeprasol, yn hytrach na gwrthweithydd derbynyddion H2 arall lle mae angen parhau â thriniaeth a lle na all y claf gamu i lawr i ddefnyddio gwrthasid neu alginad, mae’n bosibl y bydd cynnydd yn nifer y presgripsiynau am atalyddion pympiau proton.