Maes Blaenoriaeth – Poenleddfwyr: Tramadol

Mae’r dangosydd hwn yn hyrwyddo dull darbodus o ragnodi tramadol sy’n cymryd y risgiau a’r buddion i ystyriaeth ac yn cymell adolygu amserol. Mae mwy a mwy o dystiolaeth ar gael sy’n dangos y gall tramadol achosi niwed a chamddefnydd. Disgrifiwyd achosion lle ceir dibyniaeth arno a chafwyd adroddiadau am ei werth cynyddol ar y stryd ac am y risg o’i gamddefnyddio.

Mae tramadol yn boenleddfwr opioid sydd wedi’i drwyddedu ar gyfer trin poen cymedrol i ddifrifol. Mae tramadol yn lleddfu poen drwy ddau fecanwaith: effaith opioid a hybu’r llwybrau serotonergig a adrenergig. Mae’n arwain at lai o’r sgil effeithiau arferol i ddefnyddio opioidau (yn benodol, llai o dananadlu, llai o rwymedd a llai o bosibilrwydd o ddibyniaeth). Er hynny, cafwyd adroddiadau am adweithiau seiciatrig. Oherwydd proffil fferyllol unigryw tramadol sy’n cael effaith ddeuol, mae mwy o risg o brofi effeithiau niweidiol os cymerir gorddos.

Delwedd yn dangos tabl yn crynhoi manylion y dangosydd tramadol 

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon

  • Er bod cydnabyddiaeth i’r rhan y mae tramadol yn ei chwarae mewn rheoli poen, mae pryderon ynghylch camddefnyddio, dibyniaeth a marwolaethau sy’n gysylltiedig â tramadol, yn ogystal â’r risgiau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio a dargyfeirio.
  • Oherwydd proffil fferyllol unigryw tramadol sy’n cael effaith ddeuol, mae mwy o risg o brofi effeithiau niweidiol os cymerir gorddos.
  • Cafwyd adroddiadau am weld drychiolaethau, dryswch a ffitiau yn ogystal ag achosion prin o ddibyniaeth a symptomau diddyfnu wrth gymryd dosau therapiwtig o tramadol.
  • Dylid defnyddio tramadol â gofal wrth drin cleifion sy’n cymryd meddyginiaethau cydredol sy’n gallu gostwng y trothwy lle profir trawiadau, gwrthiselyddion trichylch (TCAs) ac atalyddion ailafael serotonin detholus (SSRIs).

Tueddiad mewn rhagnodi Tramadol

 Tramadol graff tuedd bwrdd iechyd GIG Cymru

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon 

DDDau Tramadol am bob 1,000 o gleifion - Chwarter yn diweddu Rhagfyr 2020

Tramadol - bwrdd iechyd GIG Cymru a siart cymharu CCG GIG Lloegr

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon

Os yw’n briodol lleihau neu atal y dosau tramadol ar gyfer y claf, mae’n bwysig nodi bod rhaid lleihau’r dos yn araf er mwyn sicrhau diogelwch y claf a lleihau’r risg o brofi symptomau diddyfnu neu adweithiau niweidiol. Lle mae dibyniaeth gorfforol ar tramadol yn datblygu, gall y syndrom diddyfnu fod yn ddifrifol, gyda symptomau sy’n nodweddiadol wrth ddiddyfnu o opiadau sydd weithiau’n cyd-ddigwydd â symptomau annodweddiadol sy’n cynnwys trawiadau, gweld drychiolaethau a gorbryder.

Er mwyn cymell y claf i ymgysylltu a chyd-fynd â chyfarwyddiadau, awgrymir lleihau’r dos ar bob cam gostwng o un dos 50 mg, er enghraifft, a thitradu yn ôl y ffordd y mae’r claf yn ymdopi, yn hytrach na gosod terfynau amser ar gyfer y gostyngiad nesaf. Bydd pob claf a’i amgylchiadau’n wahanol, ac mae angen gweithredu mewn ffordd ddarbodus wedi’i haddasu i’r unigolyn.

Mae nifer o adnoddau ar gael gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru sy’n ymwneud â tramadol a fydd yn gallu helpu presgripsiynwyr i gynnal adolygiadau a gweithredu strategaethau lleihau dosau. Gellir lawrlwytho’r rhain o www.awmsg.nhs.wales

Sut y gellir gwneud newidiadau?

  • Defnyddio Pecyn Cymorth Penderfynu ar y Cyd Tramadol AWMSG gyda chleifion wrth ystyried rhagnodi tramadol.
  • Darparu Taflen Wybodaeth Cleifion Tramadol AWMSG i gleifion pan ddechreuir defnyddio tramadol.
  • Os yw’n briodol lleihau neu atal dosau tramadol y claf, lleihau’r dos yn araf er mwyn sicrhau diogelwch y claf a lleihau’r risg o brofi symptomau diddyfnu a/neu adweithiau niweidiol i gyffuriau. Lle mae dibyniaeth gorfforol ar tramadol yn datblygu, gall y syndrom diddyfnu fod yn ddifrifol, gyda symptomau sy’n nodweddiadol wrth ddiddyfnu o opiadau sydd weithiau’n cyd-ddigwydd â thrawiadau, gweld drychiolaethau a gorbryder.
  • Er mwyn cymell y claf i ymgysylltu a chyd-fynd â chyfarwyddiadau, awgrymir lleihau’r dos ar bob cam gostwng, e.e. o un dos 50 mg, a thitradu yn ôl y ffordd y mae’r claf yn ymdopi, yn hytrach na gosod terfynau amser ar gyfer y gostyngiad nesaf.
  • Cynnal yr archwiliad tramadol – Deunyddiau Adnoddau Addysgol Tramadol AWMSG: Deunyddiau Archwilio.

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau