Maes Blaenoriaeth – Poenleddfwyr: Gabapentin and Pregabalin

Mae gabapentin a pregabalin wedi’u trwyddedu ar gyfer trin poen niwropathig ymylol ac epilepsi; mae pregabalin wedi’i drwyddedu hefyd i drin anhwylder gorbryder cyffredinol.

Mae data am fynychder yn awgrymu bod y rhan fwyaf o gabapentin a pregabalin yn cael ei rhagnodi i drin poen niwropathig, ac mae’r ddau gyffur wedi’u hargymell gan NICE fel opsiynau cyntaf ar gyfer trin poen niwropathig. Ymysg yr opsiynau cyntaf eraill y mae amitriptylin a dwlocsetin. 

Cafwyd adroddiadau am achosion o gamddefnyddio a dibyniaeth mewn perthynas â gabapentin a pregabalin, a mynegwyd pryderon am y materion hyn gan y Cyngor Cynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau. Arweiniodd hyn at amserlennu gabapentin a pregabalin o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau fel sylweddau Dosbarth C.

Dylid arfer gofal wrth ragnodi’r naill neu’r llall o’r cyffuriau hyn ar gyfer cleifion sydd â hanes o gamddefnyddio sylweddau, a dylid monitro’r claf am symptomau camddefnyddio neu ddibyniaeth. Gall y potensial ar gyfer camddefnyddio pregabalin fod yn fwy nag ar gyfer camddefnyddio gabapentin gan ei fod yn cael ei amsugno’n gyflym, am fod ei effaith yn dechrau’n gynt, ac am ei fod yn gryfach.

Tabl yn crynhoi manylion y dangosydd gabapentin a pregabalin

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon

  • Er bod cydnabyddiaeth i’r rhan y mae gabapentin a pregabalin yn ei chwarae mewn rheoli poen niwropathig, mae pryderon ynghylch y risgiau sy’n gysylltiedig â dibyniaeth, dargyfeirio a chamddefnyddio.
  • Cafwyd cynnydd yn y defnydd o gabapentin a pregabalin ym maes gofal sylfaenol dros y 5 mlynedd diwethaf ledled Cymru. Yn ogystal â hyn, mae lefel y presgripsiynu yn uwch nag yn Lloegr.
  • Cafwyd cynnydd yn nifer y marwolaethau lle’r oedd gabapentin neu pregabalin wedi’i grybwyll ar y dystysgrif marwolaeth yng Nghymru a Lloegr, o 64 o farwolaethau a gofrestrwyd yn 2014 i 333 o farwolaethau a gofrestrwyd yn 2019.

Tueddiad mewn rhagnodi Gabapentin a Pregabalin

 Gabapentin a pregabalin graff tuedd bwrdd iechyd GIG Cymru

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon 

DDDau Gabapentin a Pregabalin am bob 1,000 o gleifion - Chwarter yn diweddu Rhagfyr 202

Gabapentin a pregabalin bwrdd iechyd GIG Cymru a siart cymharu CCG GIG Lloegr

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon 

Mae rheoli poen niwropathig yn gymhleth yn aml ac mae angen i bresgripsiynwyr wneud penderfyniadau gwybodus ar sail tystiolaeth yn ôl anghenion penodol y claf. Mae’n bwysig bod presgripsiynwyr yn ymwybodol nid yn unig o’r buddion dichonol o roi gabapentin a pregabalin, ond hefyd o’r posibilrwydd iddynt gael eu camddefnyddio neu eu dargyfeirio. Mae angen gwahaniaethu rhwng unigolion sy’n camddefnyddio poenleddfwyr a’r rheini sy’n defnyddio dosau mwy neu ddosau amlach am nad yw eu symptomau’n cael eu trin yn ddigonol.

Er mwyn asesu a yw poen y claf yn niwropathig, mae nifer o raddfeydd poen ar gael, yn cynnwys asesiad Leeds o symptomau ac arwyddion niwropathig, a holiadur poen Pain Detect. Bydd y defnydd o raddfeydd poen yn helpu hefyd i ganfod yr ymateb i driniaeth a dylid eu defnyddio ym mhob adolygiad.

Sut y gellir gwneud newidiadau?

  • Defnyddio graddfa poen (er enghraifft, asesiad Leeds o symptomau ac arwyddion niwropathig [LANSS]) i asesu a yw poen y claf yn niwropathig. Bydd hyn o gymorth hefyd i ganfod yr ymateb i driniaeth.
  • Hysbysu cleifion bod yr ymateb i driniaeth cyffuriau ar gyfer trin poen niwropathig yn annigonol yn aml, ac mai 40–60% o bobl ar y mwyaf fydd yn cael bod eu poen yn cael ei leddfu’n rhannol.
  • Ar ôl cychwyn triniaeth, mae NICE yn argymell asesu’n gynnar ac wedyn cynnal adolygiadau rheolaidd i asesu a monitro effeithiolrwydd, yn cynnwys rheoli poen, effeithiau niweidiol ac angen parhaus.
  • Lleihau neu atal y dosau gabapentin neu pregabalin os na fydd y claf wedi dangos budd digonol o fewn wyth wythnos ar ôl cyrraedd y dos mwyaf a oddefir.
  • Arfer gofal wrth ragnodi gabapentin neu pregabalin ar gyfer cleifion sydd â hanes o gamddefnyddio sylweddau.

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau