Maes Blaenoriaeth – Poenleddfwyr

Defnyddir poenleddfwyr i drin poen, y gellir ei ddiffinio’n boen acíwt neu’n boen parhaus, yn ôl y cyfnod y mae’r person wedi profi’r poen. Mae meddyginiaethau poenleddfol wedi bod yn sail i driniaethau at boen ers degawdau. Fodd bynnag, yn achos poen parhaus neu gronig, mae’r cyfraddau ymateb i boenleddfwyr yn amrywio’n fawr rhwng unigolion ac mae’r cyfraddau methu yn uchel. Mae nifer o feddyginiaethau poenleddfol ar gael sydd â gwahanol fecanweithiau gweithredu ac arwyddion trwyddedig. Fodd bynnag, mae’r maes blaenoriaeth hwn yn canolbwyntio ar gyfanswm y defnydd o opioidau, tramadol, a gabapentin a pregabalin, gan fod pryderon wedi’u mynegi ynghylch adolygu’r meddyginiaethau hyn a’r defnydd priodol ohonynt, yn ogystal â’r potensial ar gyfer dibyniaeth, dargyfeirio a chamddefnydd.

 

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon

 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau