Maes Blaenoriaeth - Stiwardiaeth: Meddyginiaethau gwrthficrobaidd
Mae’r term ‘meddyginiaethau gwrthficrobaidd 4C’ yn cyfeirio at y grŵp canlynol o bedwar gwrthfiotig sbectrwm eang, neu grwpiau o wrthfiotigau : co-amocsiclaf, ceffalosporinau, fflworocwinolonau a clindamycin.
Drwy ddefnyddio gwrthfiotigau generig syml ac osgoi defnyddio’r gwrthfiotigau sbectrwm eang hyn, byddant yn cael eu cadw rhag ymwrthedd a bydd llai o risg oddi wrth C. difficile, MRSA a heintiau’r llwybr wrinol sydd ag ymwrthedd. O’u cymharu â gwrthfiotigau sbectrwm cyfyng, mae gwrthfiotigau sbectrwm eang yn fwy tebygol o greu newid sylweddol mewn fflora perfeddol, a all ganiatáu i facteria eraill ymsefydlu, gan gynnwys C.difficile.
Nodwyd pryderon yn ddiweddar ynghylch defnyddio gwrthfiotigau fflworocwinolon a cwinolon. Mewn achosion prin iawn, mae cleifion a gafodd eu trin â gwrthfiotigau fflworocwinolon neu cwinolon wedi dioddef sgil effeithiau sydd wedi’u niweidio dros gyfnod hir, yn ymwneud yn bennaf â chyhyrau, gewynnau ac esgyrn, a’r system nerfol. Yn Hydref 2018, roedd yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd wedi argymell cyfyngu’r defnydd o wrthfiotigau fflworocwinolon a cwinolon. Dywedodd na ddylid defnyddio’r gwrthfiotigau hyn i drin cleifion sy’n wynebu’r risg o ymlediad a dyraniad aortig heb wneud asesiad gofalus yn gyntaf o’r risgiau a buddion ac ystyried opsiynau therapiwtig eraill. Dylid hysbysu cleifion ei bod yn bwysig ceisio sylw meddygol ar unwaith os ceir poen difrifol sy’n dechrau’n sydyn yn yr abdomen, y frest neu’r cefn.
Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon
- O’u cymharu â gwrthfiotigau sbectrwm cyfyng, mae gwrthfiotigau sbectrwm eang yn fwy tebygol o greu newid sylweddol mewn fflora perfeddol, a all ganiatáu i facteria eraill ymsefydlu, gan gynnwys C.difficile.
- Drwy ddefnyddio gwrthfiotigau generig syml ac osgoi defnyddio’r gwrthfiotigau sbectrwm eang, bydd y rhain yn cael eu cadw rhag ymwrthedd a bydd llai o risg oddi wrth C. difficile, MRSA a heintiau’r llwybr wrinol sydd ag ymwrthedd.
- Mae’r cyffuriau gwrthficrobaidd hyn yn ddefnyddiol iawn mewn sefyllfaoedd clinigol penodol a dylid eu neilltuo i’w defnyddio yn unol â chanllawiau lleol.
Tueddiad mewn eitemau 4C am bob 1,000 o gleifion
Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon
Eitemau gwrthficrobaidd 4C am bob 1,000 STAR-PUau - Chwarter yn diweddu Rhagfyr 2020
Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon
Sut y gellir gwneud newidiadau?
- Lle mae arwydd ar gyfer defnyddio meddyginiaeth wrthficrobaidd, dilyn canllawiau lleol neu genedlaethol, gan ragnodi gwrthfiotigau ar gyfer y driniaeth effeithiol fyrraf ar y dos mwyaf priodol.
- Ystyried y risg o ymwrthedd gwrthficrobaidd ar gyfer cleifion unigol a’r boblogaeth gyfan.
- Cofnodi a chodio’r diagnosis clinigol a’r rheswm dros ragnodi neu beidio â rhagnodi meddyginiaeth wrthficrobaidd.
- Ystyried rhoi presgripsiwn wedi’i ohirio/wrth gefn.
- Darparu taflenni/adnoddau i gleifion fel y byddant yn ymwybodol o ba mor hir y gellir disgwyl i’w hanhwylder bara a sut y gallant ofalu amdanynt eu hunain. Mae adnoddau ar gael ym mhecyn cymorth gwrthfiotigau TARGET.
- Cynnal Archwiliad Cenedlaethol AWMSG: Focus on Antibiotic Prescribing.