Maes Blaenoriaeth - Baich Opioidau

Mae poenleddfwyr opioid wedi’u defnyddio ers amser maith fel y ffordd orau i drin poen difrifol, yn enwedig ar gyfer poen acíwt ac mewn gofal lliniarol. Datblygwyd ysgol poenleddfwyr Sefydliad Iechyd y Byd, sy’n argymell symud fesul cam o boenleddfwyr anopioid at opioidau ysgafn, ac wedyn opioidau cryf, er mwyn helpu cleifion â chanser i fod yn rhydd rhag poen.

Er nad yw’r ysgol poenleddfwyr erioed wedi cael ei dilysu i’w defnyddio wrth reoli poen cronig nad yw’n gysylltiedig â chanser, mae wedi’i defnyddio’n aml fel canllaw ar gyfer triniaeth mewn senarios o’r fath fel bod cleifion wedi cael dosau cynyddol o opioidau cryf. Fodd bynnag, nid yw dull gweithredu syml o’r fath yn briodol i drin poen cronig, sydd yn gymhleth dros ben.

Gan fod cynifer o ffactorau’n effeithio ar brofiad y claf a’i ddisgrifiadau o boen cronig, nid yw’n syndod nad yw sgoriau poen yn ymateb mewn ffordd ragweladwy i opioidau, ac mae ymdrechion i ostwng sgoriau poen drwy ddefnyddio opioidau wedi arwain at orddefnydd a chanlyniadau niweidiol heb unrhyw ostyngiad sylweddol ym maich y poen cronig ar lefel y boblogaeth.

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon

  • Yn aml, nid rhagnodi opioidau yw’r opsiwn mwyaf priodol neu effeithiol ar gyfer trin cleifion â phoen cronig, a gall beri i gleifion wynebu’r risg o niwed yn ddiangen.
  • Er nad oes tystiolaeth o blaid defnyddio opioidau i drin poen cronig nad yw’n gysylltiedig â chanser, mae ymchwil wedi dangos bod cynnydd mewn rhagnodi opioidau cryf ym maes gofal sylfaenol, ar gyfer cleifion heblaw cleifion canser yn bennaf.
  • Yn 2019, cofrestrwyd 121 o farwolaethau yng Nghymru o ganlyniad i wenwyn yn gysylltiedig â chyffuriau, gyda opioid wedi'u crybwyll ar y dystysgrif marwolaeth. Er bod hyn yn ostyngiad o’r 164 o farwolaethau a gofrestrwyd yn 2018, mae dros 100 o farwolaethau bob blwyddyn wedi’u cofnodi’n rheolaidd yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.
  • Mae sgil effeithiau profedig o gymryd poenleddfwyr opioid, yn cynnwys rhwymedd, cyfog a chwydu, a thananadlu, ac mae eu rhoi’n rheolaidd yn gallu achosi goddefiad a dibyniaeth.

Tueddiad mewn rhagnodi baich opioidau

 

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon

MDCau baich opioidau am bob 1,000 o gleifion - Chwarter yn diweddu Rhagfyr 2020

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon

Os na fydd y poen sydd gan gleifion yn cael ei leddfu’n effeithiol gan opioidau o fewn dwy i bedair wythnos, maent yn annhebygol o gael budd ohonynt yn y tymor hir. Mae papur briffio gan y BMA (Chronic Pain: supporting safer prescribing of analgesics) yn nodi bod gormod o bobl â phoen cronig yn cael presgripsiwn ar gyfer dosau uchel o opioidau. Mae’r risg o gael niwed yn cynyddu’n sylweddol wrth gymryd dosau uchel, ac mae’r cleifion yn annhebygol o gael budd pellach os yw’r dos yn fwy na dos dyddiol cyfatebol o morffin drwy’r geg o 120 mg. Os na cheir budd drwy leihau poen a gwella gweithrediadau wrth gymryd dosau isel, dylid atal y defnydd o opioidau, hyd yn oed os nad yw triniaeth arall ar gael yn rhwydd. Nid oes tystiolaeth bod dosau uchel o opioidau yn effeithiol wrth drin poen tymor hir.

Wrth wneud penderfyniadau am ragnodi cyffuriau a reolir, dylid ystyried y canlynol:

  • buddion y driniaeth;
  • risgiau’r rhagnodi, yn cynnwys dibyniaeth, gorddosau a dargyfeirio;
  • yr holl feddyginiaethau y mae’r claf yn eu cymryd, ar bresgripsiwn ac fel arall, a hefyd a yw’r person yn un sydd heb gymryd opioidau am gyfnod penodol.

Mae rhestr wirio ar gael gan y Gyfadran Meddygaeth Poen i helpu i drafod triniaethau opioidau â chleifion.

Sut y gellir gwneud newidiadau?

  • Sicrhau wrth ragnodi opioidau fod y canlynol yn cael eu hystyried: buddion y driniaeth; risgiau rhagnodi, yn cynnwys dibyniaeth, gorddosau a dargyfeirio; yr holl feddyginiaethau y mae’r person yn eu cymryd, ar bresgripsiwn ac fel arall; ac a yw’n bosibl bod y person heb gymryd opioidau am gyfnod penodol.
  • Os credir bod lle i therapi opioidau wrth reoli poen y claf, dylid cychwyn treial i ddarganfod a fydd poen y claf yn lleihau drwy ddefnyddio opioidau – os na fydd, dylid atal eu defnyddio.
  • Dylid cyfyngu’r cynnydd mewn dosau gan fod y risg o niwed yn cynyddu po fwyaf yw’r dos, yn enwedig os nad yw’r poen yn cael ei leddfu’n ddigonol. Mae’r claf yn annhebygol o gael budd pellach os yw’r dos yn fwy na dos dyddiol cyfatebol o morffin drwy’r geg o 120 mg.
  • Defnyddio rhestr wirio Cyfadran Meddygaeth Poen Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion i helpu i drafod triniaethau opioidau â chleifion.
  • Chwilio am gleifion sy’n cymryd dos dyddiol cyfatebol o morffin drwy’r geg o ≥120 mg er mwyn cynnal adolygiadau.

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau