Maes Blaenoriaeth - Stiwardiaeth: Yr Holl Eitemau Gwrthfacterol

Y defnydd eang o gyffuriau gwrthficrobaidd, sydd yn aml yn ormodol, yw un o’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at y cynnydd mewn ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Mae cyflwyno’r NPIs ar gyffuriau gwrthficrobaidd yn ategu’r uchelgeisiau sydd gan Lywodraeth y DU i leihau heintiadau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Er mwyn hyrwyddo’r uchelgeisiau hyn, cyhoeddwyd Cylchlythyr Iechyd Cymru gan Lywodraeth Cymru ym Mai 2018 i egluro ei nodau ar gyfer gwella ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Roedd y rhain yn cynnwys nodau gwella penodol ar gyfer byrddau iechyd i leihau heintiadau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd yn ogystal â nodau gwella sy’n gysylltiedig â rhagnodi cyffuriau gwrthficrobaidd, sy’n defnyddio’r Dangosydd Rhagnodi Cenedlaethol hwn yn un o’r marcwyr.

Delwedd yn dangos tabl yn crynhoi manylion y dangosydd stiwardiaeth yr holl eitemau gwrthfacterol

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon

  • Y defnydd eang o gyffuriau gwrthficrobaidd, sydd yn aml yn ormodol, yw un o’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at y cynnydd mewn ymwrthedd gwrthficrobaidd.
  • Er gwaethaf y gostyngiadau wrth bresgripsiynu, ceir amrywiadau rhwng byrddau iechyd a phractisau meddygon teulu. Hefyd, mae lefel y presgripsiynu yng Nghymru yn uchel o’i chymharu â Lloegr.
  • Y defnydd amhriodol neu anwahaniaethol o wrthfiotigau yw un o’r prif ffactorau sy’n sbarduno lledaeniad ymwrthedd gwrthfiotig.

Tuedd yng nghyfanswm rhagnodi gwrthfacterol

 Tuedd yng nghyfanswm rhagnodi gwrthfacterol graff tuedd bwrdd iechyd GIG Cymru

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon 

Eitemau Gwrthfacterol am bob 1,000 STAR-PUau - Chwarter yn diweddu Rhagfyr 2020

Tuedd yng nghyfanswm rhagnodi gwrthfacterol bwrdd iechyd GIG Cymru a siart cymharu CCG GIG Lloegr

Sylwch: Y gwerthoedd cyfartalog ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru a Lloegr yw 240.65 a 241.96 yn y drefn honno, felly mae'r llinellau sy'n dangos y cyfartaleddau hyn yn gorgyffwrdd ar y graff.

Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon

Sut y gellir gwneud newidiadau?

  • Lle mae arwydd ar gyfer defnyddio meddyginiaeth wrthficrobaidd, dilyn canllawiau lleol neu genedlaethol, gan ragnodi gwrthfiotigau ar gyfer y driniaeth effeithiol fyrraf ar y dos mwyaf priodol.
  • Ystyried y risg o ymwrthedd gwrthficrobaidd ar gyfer cleifion unigol a’r boblogaeth gyfan.
  • Cofnodi a chodio’r diagnosis clinigol a’r rheswm dros ragnodi neu beidio â rhagnodi meddyginiaeth wrthficrobaidd.
  • Ystyried rhoi presgripsiwn wedi’i ohirio/wrth gefn.
  • Darparu taflenni/adnoddau i gleifion fel y byddant yn ymwybodol o ba mor hir y gellir disgwyl i’w hanhwylder bara a sut y gallant ofalu amdanynt eu hunain. Mae adnoddau ar gael ym mhecyn cymorth gwrthfiotigau TARGET.
  • Cynnal Archwiliad Cenedlaethol AWMSG: Focus on Antibiotic Prescribing.

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau