Diogelwch – Cyffuriau Hypnotig a Chyffuriau Lleihau Gorbryder
Mae’r problemau sy’n gysylltiedig â chyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder yn gyfarwydd. Dylid osgoi defnyddio bensodiasepinau a chyffuriau ‘z’ i drin pobl oedrannus gan eu bod yn wynebu risg fwy o ddod yn afreolus a dryslyd, ac o gael cwympiadau ac anafiadau o ganlyniad i hynny.
Gellir cael dibyniaeth gorfforol a seicolegol, yn ogystal â goddefiad, a gall hyn ei gwneud yn fwy anodd diddyfnu o’r cyffur wedi i’r claf ei gymryd yn rheolaidd am fwy nag ychydig wythnosau.
Er bod lle i ddefnyddio cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder yn y tymor byr, nod y dangosydd yw lleihau rhagnodi amhriodol.
Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon
- Mae lefel y cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder sy’n cael eu rhagnodi yn GIG Cymru yn uchel o’i chymharu â Lloegr.
- Mae’r problemau sy’n gysylltiedig â bensodiasepinau (e.e. goddefiad, dibyniaeth, diddyfnu sy’n achosi anhunedd) yn gyfarwydd, ac mae nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â bensodiasepinau wedi cynyddu.
- Rydym yn gwybod bod cymryd cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder yn cynyddu’r risg o gwympo yn sylweddol.
Tueddiad mewn rhagnodi cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder
Er bod y graff tueddiadau yn dangos bod maint y cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder a roddir ar bresgripsiwn yng Nghymru wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r cyfraddau rhagnodi yn amrywio’n sylweddol rhwng byrddau iechyd, a rhwng practisau meddygon teulu.
Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon
Yn gyffredinol, mae lefel y cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder a roddir ar bresgripsiwn yng Nghymru yn parhau’n uchel o’i chymharu â Lloegr, gan fod pump o’r saith bwrdd iechyd yn y chwartel uchaf ar gyfer rhagnodi o’u cymharu â Grwpiau Comisiynu Clinigol yn Lloegr.
Cyffuriau Hypnotig a Chyffuriau Lleihau Gorbryder ADQs fesul 1,000 STAR-PUau - Chwarter yn diweddu Rhagfyr 2020
Gellir lawrlwytho fersiwn hygyrch o’r llun drwy’r ddolen hon
Mae AWMSG wedi datblygu pecyn adnoddau sy’n cynnwys llawer o ddeunyddiau i gleifion a phresgripsiynwyr i helpu i adolygu a lleihau maint y cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder a roddir ar bresgripsiwn.
Mae’r pecyn yn cynnwys canllawiau ar gyfer lleihau dosau a diddyfnu, protocolau lleihau dosau ac offer asesu, yn ogystal â thaflenni gwybodaeth ac arweiniad i gleifion.
Sut y gellir gwneud newidiadau?
- Ystyried rhagnodi cyffuriau hypnotig dim ond ar ôl edrych ar therapïau heblaw cyffuriau.
- Wrth ragnodi cyffuriau hypnotig, defnyddio’r dos isaf posibl dros y cyfnod byrraf posibl ac yn hollol gyson â’r arwyddion y maent wedi’u trwyddedu ar eu cyfer; dim mwy na phedair wythnos.
- Peidio â chynnig bensodiasepinau i drin anhwylder gorbryder cyffredinol, ac eithrio fel mesur tymor byr yn ystod argyfyngau.
- Ystyried lleihau’r dosau o gyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder bob amser lle y bo’n briodol.
- Cynnal yr archwiliad o gyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder sydd ym Mhecyn Addysgol AWMSG: Materials to Support Appropriate Prescribing of Hypnotics and Anxiolytics across Wales.
- Defnyddio’r adnoddau ar leihau/diddyfnu o gyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder ym Mhecyn Addysgol AWMSG.