Ofn
Mae poen cysylltiedig ag ofn yn cyfeirio at ofn gormodol a nychus o symudiad corfforol a gweithgaredd sydd yn deillio o deimlo’n agored i boen. Mae gan gleifion â phoen cefn yn aml feysydd pryder sydd angen eu rheoli’n ofalus. Yn llawer rhy aml mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn rhoi cyngor annigonol neu wrthgyferbyniol sydd yn tanseilio unrhyw ffydd a hyder a gynigir yn ddiweddarach ar y daith o reolir claf. Gall y meysydd ofn penodol gynnwys:
- Ofn poen
- Ofn dolur neu niwed
- Ofn anabledd
- Ofn colli rheolaeth
- Ofn llawdriniaeth
- Ofn effaith ar deulu a pherthnasoedd
- Ofn colli cyflogaeth, colli cyflog etc.
Mae yna dystiolaeth gynyddol bod ofn poen, ac ofn dolur neu niwed yn fecanwaith elfennol mewn perthynas â hyrwyddo poen gwaelod y cefn ac anabledd. I ddechrau, mae’n ymateb normal i osgoi yr hyn sy’n ymddangos yw achos y boen. Ond, gall ofn arwain at osgoi’r gweithgaredd hwnnw yn llwyr. At bwynt byddai’n ymddangos bod hynny yn rhesymol, ond maes o law bydd camddealltwriaethau yn datblygu i fod yn gredoau pendant ynghylch y dolur a'r niwed sydd yn gysylltiedig â’u poen cefn. Er enghraifft, efallai bydd cleifion yn osgoi unrhyw driniaeth neu adsefydlu pan ellid dioddef elfen o boen. Er mwyn lleihau’r ofnau a’r gorbryderon yma yn ddigonol, mae angen i feddygon gael dealltwriaeth glir o beth mae’r claf ei angen o’r ymgynghoriad. Mae methu â mynd i’r afael â’r materion yma yn cynyddu’r tebygolrwydd o greu camddealltwriaeth ac anfodlonrwydd, a gallai hynny effeithio ar driniaeth a’r broses o wella. Cymhariaeth ddefnyddiol mewn perthynas â lleihau’r ofn yma fyddai’r enghraifft o athletwr yn gwella o anaf, neu o fod yn anffit, sydd yn derbyn bod poen yn ganlyniad naturiol i ymarfer.