Dicter

Gall dicter amlygu ei hun mewn gwahanol ffurfiau. Efallai bod y claf yn ddig oherwydd natur achosol y boen, allai fod wedi digwydd yn y gwaith neu o ganlyniad i ddamwain. Efallai bydd y claf yn cyfeirio ei ddicter at y meddygon am nad ydynt yn gallu diagnosio eu symptomau yn llwyddiannus neu eu trin yn ddigonol. Gall colli swydd neu ymgyfreitha olygu y cyfeirir dicter at y cyflogwr neu’r system gyfreithiol. Bydd meddygon hefyd yn gallu teimlo’n ddig tuag at eu cleifion am fethu ag ymateb i driniaeth, am fethu â chymryd y feddyginiaeth a ragnodwyd neu berfformio rhaglen ymarfer corff a roddwyd. Gall hynny achosi i’r meddyg golli amynedd a chydymdeimlad, a gall hynny achosi diffyg cyfathrebu.

Heb deimlad o ymddiriedaeth ddwy ffordd a chydweithrediad rhwng y claf a’r meddyg, gall y teimlad o ddicter neu elyniaeth arwain at driniaeth sydd yn methu a bydd hynny yn ei dro yn bwydo’r teimlad o ddicter fydd yn troi’n gylch o fethiant a rhwystredigaeth.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau