Gorwyliadwraeth

Mae gorwyliadwraeth yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio yr unigolion hynny sydd yn orwyliadwrus o’u symptomau corfforol ac mae’n gysylltiedig â monitro teimladau yn y corff rhag bygythiadau. Tybiwyd bod yr arddull sylwgar diffygiol yma yn cynnal ac yn dwysau teimladau corfforol ac fe’i gwelir yn yr amrywiol fodelau osgoi ofn pan fo cleifion ofnus yn dod yn gynyddol wyliadwrus o arwyddion o fygythiad i’r corff, a hynny yn ei dro yn arwain at ymddygiad o osgoi ac anabledd cynyddol. Tybir bod nifer o ffactorau yn gysylltiedig â thymheru gofynion poen o ran tynnu sylw, ac mae’r effeithiau cryfaf a  mwyaf cyson yn gysylltiedig ag ofn, gorbryder a thrychinebu. Mae gwyliadwriaeth sylwol am wybodaeth sydd yn bygwth poen yn arwain at debygolrwydd uwch o ganfod ffynonellau o fygythiad posibl, gwaethygu poen, anabledd, dirywiad mewn iechyd corfforol, arwahanrwydd cymdeithasol a cholli gwaith. Gall tuedd sylwol i boen fod yn arwydd o ddiffyg derbyn CNMP a gall fod yn niweidiol i’r broses o’i reoli; mae ei dderbyn yn fuddiol o ran ffwythiant y claf.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau