Therapi corfforol (NICE)
Ar ôl chwe wythnos, os na fydd y boen wedi setlo, dylid cynnig i’r claf gwrs o naill ai:
- aciwbigo (10 sesiwn dros 12 wythnos)
- parhau gyda’r cwrs o therapïau naturiol, yn cynnwys llawdriniad i’r meingefn (9 sesiwn dros 12 wythnos). Mae therapi â llaw yn derm sydd yn cynnwys llawdriniad i’r meingefn, symud y meingefn a thylino.
- cwrs o ymarfer corff mewn grŵp mewn dosbarth o hyd at 10 o bobl (8 sesiwn dros gyfnod o hyd at 12 wythnos) gydag anogaeth i ailafael mewn gweithgaredd a chyflawni’r nod o adfer ffwythiant. Gallai hynny gynnwys gweithgaredd aerobig, cyfarwyddyd symud, cryfhau cyhyrau, rheoli osgo ac ymestyn.
- gellir cynnig rhaglen ymarfer corff un i un dan oruchwyliaeth os nad yw rhaglen grŵp yn addas i unigolyn penodol.
Dylai’r sesiynau yma hefyd ganolbwyntio ar ddysgu’r claf am egwyddorion dull ymddygiadol gwybyddol ac ystyried fflagiau melyn a glustnodwyd.
Peidiwch â chynnig/atgyfeirio ar gyfer:
- SSRI ar gyfer trin poen
- chwistrellu sylweddau therapiwtig i’r cefn
- Therapi laser
- Therapi Ymyraethol
- Uwchsain therapiwtig
- TENS
- Cymhorthion meingefnol
- Hydyniad
Peidiwch ag atgyfeirio ar gyfer:
- Dadnerfu cymal ffased gydag amledd radio
- IDET(therapi electrothermol mewnddisgol)
- PIRFT(triniaeth thermo-geulad amledd radio mewnddisgol drwy’r croen)