Casgliad ynghylch Poen Gwaelod y Cefn
Gobeithir bod y modiwl yma wedi bod o ddefnydd ymarferol, a darparwyd cyfeiriadau os ydych yn dymuno ymchwilio rhagor. Mae yna rai cyflwyniadau defnyddiol ac adnoddau poen gofal sylfaenol ar gael yma. Fel casgliad, y negeseuon allweddol ar gyfer poen gwaelod y cefn mecanyddol syml yw:
- Dylid ei reoli mewn gofal sylfaenol
- Mae hunanreoli yn allweddol; ystyriwch analgesia syml i ddechrau ac yna therapi â law, ymarfer corff ac aciwbigo os na fydd y boen yn gwella
- Peidiwch ag atgyfeirio am MRI neu belydr-x ar gyfer poen gwaelod y cefn oni bai yr ystyrir llawdriniaeth neu yr amheuir fflagiau coch.
- Ceisiwch gadw’r claf yn actif - NID YW POEN YN GOLYGU NIWED - mae aros yn actif fel arfer yn golygu aros mewn gwaith. Hefyd gall fod yn werth sôn nad oes raid bod yn 100% ffit i fynd yn ôl i’r gwaith a bod y nodwy ffitrwydd newydd yn rhoi’r opsiwn o ddychwelyd i’r gwaith i wneud dyletswyddau addasedig etc. os bydd y cyflogwr yn gallu trefnu hynny.
- Peidiwch ag atgyfeirio at ofal eilaidd oni amheuir achos cymhleth neu fflagiau coch, neu os bydd cymhlethdod neu gronigedd y poen cefn yn golygu bod angen gwasanaethau poen arbenigol.
- Dylid asesu a rheoli fflagiau melyn yn gynnar os bydd ffactorau seicogymdeithasol yn oedi’r adferiad.
- Dylech osgoi defnyddio trosiadau anfuddiol (meingefn maluriedig, ychydig o arthritis)
- Ewch ati i ddatfeddyginiaethu’r poen cefn - defnyddio adnoddau yn y gymuned megis atgyfeirio am ymarfer corff etc.