Ffactorau seicogymdeithasol

Mae’r Gymdeithas astudio Poen Ryngwladol yn diffinio poen fel ‘profiad synhwyrol ac emosiynol anghyfforddus’. Er bod gennym ni fel gweithwyr iechyd proffesiynol ddealltwriaeth dda o’r mecanweithiau biolegol sydd yn gysylltiedig â dargludo arwyddion poen a’r mecanweithiau sydd ar waith ar gyfer dylanwadu arnynt drwy ddulliau ffarmacolegol a dulliau eraill, yn aml rydym yn anghofio bod poen yn brofiad goddrychol a phersonol iawn a bod iddo bob amser ddimensiwn emosiynol a mae angen i ni ei werthfawrogi. Er hynny, mae nifer o feddygon a therapyddion yn priodoli poen fel rhywbeth sydd naill ai’n gorfforol neu’n seicolegol, ac nid yw hynny’n wir.

Mae yna nifer o achosion, yn arbennig yn achos dioddefwyr poen gwaelod y cefn, pan fo’r canfyddiadau corfforol allai egluro symptomau’r claf wedi cael eu disbyddu, felly esbonnir bod y symptomau yn seicogenig eu tarddiad. Mae’r ffactorau sydd yn gysylltiedig â chadw cleifion yn gronigaidd anabl oherwydd eu poen cefn yn seicogymdeithasol yn hytrach na phoen yn bennaf. Mae’r rhan fwyaf o astudiaethau poen gwaelod y cefn yn dangos bod y prif emosiynau a deimlir yn cynnwys gorbryder, ymwybyddiaeth corfforol cynyddol, a bod ofn yn helpu mewn perthynas ag anaf acíwt fel rhybudd o fygythiad, ond mae’r rhain yn gyfun ag iselder a dicter sydd yn gamaddasol mewn poen is acíwt a chronig.

Mae’r emosiynau yma yn cael eu dwysau gan eu poen ac anabledd, ac os collir rheolaeth ar hynny, gall y boen a’r gorbryder  waethygu a pharhau a dod yn rhan o’r broblem.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau