Poen cefn cronig wedi ei sefydlu, ddim mwyach yn ymdopi

Bydd yna grŵp o gleifion fydd wedi bod yn hunanreoli ac yn ymdopi â’r boen tan yn ddiweddar. Yn anffodus, am ryw reswm, efallai na fyddant mwyach yn gallu ymdopi, a gall hynny fod am nifer o resymau. Os bydd ymddygiadau iechyd gwael neu byliau o boen yn bodoli, bydd raid rhoi sylw i’r digwyddiad sydd yn sbarduno a’r broblem danategol. Bydd angen cynnal asesiad gan edrych ar boen ac effaith ar weithgareddau bywyd bob dydd. Gellir cyflawni hynny drwy ofyn am hanes bioseicogymdeithasol neu gyfeirio at hynny, heb anghofio diystyru patholeg difrifol.

Mae’r arwyddion bod cleifion efallai ddim yn ymdopi (ddim yn hunanreoli) efallai yn cynnwys:

  • colli amser o’r gwaith
  • ddim yn gallu cysgu
  • effaith ar berthnasoedd
  • llai o weithgareddau cymdeithasol
  • Iselder
  • gorbryder etc.

Y nod yw ceisio rheoli’r sbardunau a helpu’r claf i ddychwelyd i hunanreoli yn hytrach na mynd yn ôl i ddefnyddio tabledi. Dylid dysgu’r claf i adnabod y gwahaniaeth yn eu poen arferol, allai fod yn gynnydd mewn dwyster, efallai fel ymateb i ymarfer corff heb ei reoli neu dasgau yn y cartref er enghraifft, a phoen newydd nad ydynt wedi ei gael o’r blaen. Gall sesiynau gyda’r nyrs practis er mwyn datblygu ‘cerdyn brys’ pan fo’r claf yn gwneud ei gynlluniau ei hun ar gyfer beth i’w wneud pan fyddant yn cael pwl acíwt fod yn ddefnyddiol. Bydd angen i’r claf ymarfer beth mae’n bwriadu ei wneud fel bod eu hymateb i bwl acíwt yn dod yn arferiad bron. Mae’r pwyntiau sydd yn gynwysedig ar gerdyn brys nodweddiadol i’w gweld isod.

Prif bwyntiau ar gyfer y Cerdyn brys
  • Peidiwch â chynhyrfu, fe fydd yn gwella
  • Asesu ‘a yw hwn yn boen newydd neu fy hen boen’
  • Ymlacio corfforol a meddyliol
  • Ymarferion ymestyn efallai
  • Efallai y bydd angen gorffwys (hyd at 2 ddiwrnod o orffwys yn y gwely)
  • Cadw’n actif; piltran os yn bosibl
  • Lleihau ymarfer corff
  • Dechrau cynyddu’r ymarfer corff yn raddol unwaith eto
  • Efallai bydd angen lladdwyr poen er mwyn helpu i adfer ffwythiant
  • Ymweld â’r meddyg teulu dim ond i gael rhagnodiad ar gyfer lladdwyr poen
  • Adfer rheolaeth; peidio â gadael eich hun i gael eich atgyfeirio eto
  • Canfod pam fod hyn wedi digwydd (dim digon o ofal efallai etc.)
  • Adolygu llenyddiaeth/gwefannau hunanreoli
  • Llongyfarch eich hun am reoli hyn yn dda

Os bydd y claf yn dal yn methu ag ymateb, dylid eu hatgyfeirio at glinig poen cronig mewn gofal eilaidd, neu’n fwy priodol a phan fo ar gael, at wasanaeth asesu a rheoli poen yn y gymuned. Bydd cyfansoddiad y tîm yma yn dibynnu ar y trefniant presennol ym mhob un o’r 7 bwrdd iechyd, ond dylai hynny adlewyrchu’r ffaith y bydd cleifion eisoes wedi derbyn 6 wythnos o gyngor a sicrwydd a hyd at 18 wythnos o driniaeth ymarferol.

Gall gwasanaeth poen gofal sylfaenol neu yn y gymuned, os yw ar gael yn eich ardal, gynnwys y rolau canlynol:

  • atal atgyfeirio amhriodol at ofal eilaidd sydd yn meddyginiaethu’r claf
  • darparu brysbennu cywir sydd yn adnabod y lefel briodol o ymyrraeth fioseicogymdeithasol sydd ei hangen ac atgyfeirio / ymyrryd fel sy’n briodol.
  • atal y rhai fydd yn mynd yn ôl i’r practis meddyg teulu ar ôl mynychu rhaglen reoli poen dwys (PMP) rhag cylchdroi unwaith eto yn y system feddygol drwy roi gwybodaeth a chefnogaeth sydd yn atgyfnerthu hunanreoli.

Un o brif argymhellion canllawiau NICE yr darparu rhaglen gorfforol a seicolegol gyfun gynhwysfawr (CPP) ar gyfer rheoli cleifion sydd â lefelau uchel parhaus o anabledd neu drallod seicogymdeithasol ar ôl o leiaf un o’r therapïau llai dwys (aciwbigo, ymarfer corff mewn grŵp neu therapi â llaw). Mae CPP yn rhaglen amlddisgyblaethol ddwys sydd yn seiliedig ar therapi ymarfer mewn grŵp gyda mewnbwn cryf o therapi ymddygiadol gwybyddol a pheth mewnbwn gan arbenigeddau eraill. Mae yna nifer o wahanol fathau o CPP sydd yn amrywio o raglenni rheoli poen i raglenni adfer ffwythiant. Maent yn wahanol o ran cydbwysedd y cynnwys a’r dull o gyflawni.

Nid yw’r math o raglen CPP gynhwysfawr a argymhellir gan NICE ar gael mewn nifer o ardaloedd, a gobeithir y bydd rhoi canllawiau NICE ar waith yn cynyddu darpariaeth y cyfryw raglenni yn y GIG drwyddo draw.

Cyflawni:

  • mae’r rhaglen hon yn ddwys, ac fe’i cyflawnir yn fwyaf cyffredin yn llawn amser dros gyfnod o dair wythnos am 100 o oriau cyswllt fel yr argymhellir gan NICE. Gall y rhaglenni fod yn rhai preswyl.

Cynnwys:

  • mae’r hyfforddiant corfforol graddol yn cynnwys hyfforddiant aerobig, cyfnodau o hyfforddiant gwrthiant drwy ddefnyddio offer campfa neu gyffelyb, ac ymarferion ymestyn. Mae rhai rhaglenni yn cynnwys hyfforddiant galwedigaethol megis codi, tynnu ac efelychu osgo gwaith
  • mae’r cynnwys seicolegol yn cynnwys therapi ymddygiadol gwybyddol, cwnsela a sgiliau rheoli poen. Mae hynny yn pwysleisio hunanddibyniaeth, strategaethau ymdopi a phennu amcanion / datrys problemau
  • mae’r driniaeth yn bennaf yn cael ei darparu mewn grwpiau
  • hyfforddiant corfforol yw rhan fwyaf o gynnwys y rhaglen

Lleoliad:

  • Gellir cynnal y rhaglenni mewn canolfannau adsefydlu mawr. Awgrymwyd y gall cynnal y rhaglenni y tu allan i safleoedd gofal iechyd wella’r ffocws ar wella gallu. Mae argaeledd pwll a champfa yn fuddiol.

Adnoddau i gleifion sydd â phoen gwaelod y cefn cronig sefydledig:


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau