Baich poen cefn

Mae'r ystadegau canlynol yn amlygu pwysigrwydd  manteisio ar ‘gyfle euraidd’ Waddell, ac os collir y cyfle hwnnw, efallai y bydd yn arwain nid yn unig at ddioddefaint i’r unigolyn a’i deulu, ond hefyd yn effeithio’n sylweddol ar iechyd, gofal cymdeithasol a chyflogaeth.

  • Mae canran y bobl sydd yn dychwelyd i weld eu meddyg teulu gyda phoen cefn o fewn 3 mis yn 29% (Croft et al 1998).
  • Tybir bod mynychder poen ymysg y boblogaeth o oedolion yn 46.5% (Elliott et al 1999, Smith et al 2001)
  • Mae mynychder poen cronig difrifol ymysg y boblogaeth o oedolion yn 5.6% - mae hwn yn boen sydd yn ddifrifol ac sydd yn achosi anabledd a thrallod difrifol (Elliott et al 1999, Smith et al 2001)
  • Mae gan boen anfalaen cronig (CNMP) fynychder cyffelyb i glefyd y galon a diabetes.
  • Mae gan bobl â CNMP lefel uwch o farwoldeb o ganlyniad i bob achos (Torrence et al, 2010) –
    • 1.38 gwaith gymaint gyda CNMP, dwy waith mor debygol gyda CNMP difrifol
    • 2.11 gwaith mwy tebygol o farw o ganlyniad i glefyd y galon
    • 2.45 gwaith mwy tebygol o farw o ganlyniad i glefyd anadlol
  • Yn 2002, roedd CNMP yn gysylltiedig â 4.6 miliwn o apwyntiadau â meddygon teulu y flwyddyn = 793 o feddygon teulu llawn amser am gost o £69 miliwn.
    • 15-22% o holl ymgynghoriadau meddygon teulu
    • Mae 10% o’r holl feddyginiaethau a ragnodir ar gyfer poen cronig
    • Gwelir 1% mewn clinigau poen cronig, mae’r gweddill yn cael eu rheoli mewn gofal sylfaenol (Belsey et al 2002)
  • Os bydd unigolyn wedi bod i ffwrdd o’r gwaith gyda phoen cefn am 1 mis, mae yna debygolrwydd o 20% y bydd yn dal i ffwrdd o’r gwaith flwyddyn yn ddiweddarach, ac ar ôl 6 mis i ffwrdd o’r gwaith mae yna debygolrwydd o 50% y bydd i ffwrdd o’r gwaith flwyddyn yn ddiweddarach, ond gall y sefyllfa yma newid (Waddell 2004).
  • Amcangyfrifir bod poen gwaelod y cefn yn effeithio ar o leiaf 60 i 80% o’r boblogaeth ar ryw adeg yn eu bywydau, ac yn achos y rhan fwyaf o’r rhain bydd y poen cefn yn gwella gyda chamau syml yn cynnwys analgesia syml, symudiad a chyngor ar ymarfer corff  (Macfarlane et al 1999).
  • Ond, mae rhan fawr o gost poen cefn, yr amcangyfrifir sydd yn £500 miliwn y flwyddyn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y DU, yn gysylltiedig a chyfran fechan o unigolion â phoen gwaelod y cefn y mae eu symptomau yn datblygu i fod yn gronig (Macfarlane et al 1999).
  • Yn y DU mae gan 2.5 miliwn o bobl boen cefn bob diwrnod o’r flwyddyn ac mae hynny yn arwain at gyfanswm cost o £12.3 biliwn (22% o wariant y DU ar ofal iechyd) (BackCare 2001).
  • Yn y DU problemau cefn yw prif achos anabledd, gyda 119 miliwn o ddyddiau yn cael eu colli: mae un o bob wyth o bobl ddi-waith yn nodi mai poen cefn yw’r rheswm nad ydynt yn gweithio (BackCare 2001).

Amcangyfrifir bod cost poen cefn i’r GIG yn £481 miliwn y flwyddyn (ystod lleiafswm-uchafswm o £356 - 649 miliwn), a chostau na ysgwyddir gan y GIG (megis ymgynghoriadau a rhagnodau preifat) yn £197 yn ychwanegol (Moffett et al 1995).

Mae’r cwmwl geiriau yma yn darlunio data Sprangers et al (2000) ac mae’n dangos effaith nifer y cyflyrau cronig ar ansawdd bywyd, ac mai cyflyrau cyhyrysgerbydol sydd yn achosi’r effaith fwyaf. Po uchaf y gair, y mwyaf yw’r effaith.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau