Adrodd
Meddyliwch am bwy fydd yn darllen eich adroddiad a dewiswch yn cynnwys a’r arddull yn unol â hynny. Meddyliwch am beth ydych yn ceisio ei gyflawni - e.e. os ydych angen perswadio pobl am yr angen i weithredu, sicrhewch bod eich adroddiad yn ffeithiol ac yn wrthrychol a bod eich dadl wedi ei fframio’n argyhoeddiadol ond yn gadarn seiliedig ar y mesuriadau yr ydych wedi eu gwneud.
Sicrhewch ei fod yn edrych yn broffesiynol.
- Sicrhewch ei fod yn llifo’n rhesymegol a’i fod yn hawdd ei ddarllen a'i ddeall.
- Ysgrifennwch yn syml heb ymhelaethu’n ormodol. Dylai adroddiad archwiliad fod yn ddisgrifiad o’r broses yn bennaf a chynnwys cynrychiolaethau o’r data mewn fformat glir a chryno.
- Pan fyddwch yn defnyddio talfyriadau ac acronymau, sicrhewch eich bod yn ysgrifennu’r rhain yn llawn y tro cyntaf y byddwch yn eu defnyddio.
- Gofynnwch i rywun arall brawf darllen eich adroddiad cyn i chi ei ddosbarthu.
Cofiwch gymharu perfformiad yn erbyn y meini prawf a’r safonau y cytunwyd arnynt ar ddechrau’r archwiliad.