Canllawiau syml

Pobl yn edrych ar y siart

Bwriedir i’r canllawiau yma ategu’r canllawiau mwy cynhwysfawr ar archwilio yn yr adnodd electronig yma, neu gellir ei ddefnyddio fel canllawiau atgoffa ar gyfer y rhai sydd yn fwy cyfarwydd â’r broses archwilio.

Er bod pob un ohonom yn defnyddio archwiliad yn anffurfiol fel rhan o’n hymarfer, mae dangos dealltwriaeth o’r broses yn rhywbeth y mae meddygon teulu yn ei gael yn anodd. Dylai’r pecyn archwilio yma alluogi meddygon teulu i gwblhau archwiliad ystyrlon a dealladwy. Gellir defnyddio eich archwiliad a gwblheir fel sylfaen ar gyfer myfyrio ar yr hyn ydych yn ei wneud, trafodaeth gyda chydweithwyr a/neu ar gyfer cyflwyno neu adolygu newidiadau yn y practis.  Fe’ch anogir i gynnwys yr archwiliad yn eich arfarniad meddyg teulu ynghyd â myfyrio ar yr hyn yr ydych wedi ei ddysgu ohono a beth, os o gwbl, fyddwch yn ei wneud yn wahanol o ganlyniad i hynny.

Sut mae dewis testun ar gyfer archwiliad:

Gall y dewis o destun ar gyfer archwiliad adlewyrchu materion ynghylch llwyth gwaith clinigol, data rhagnodi, canllawiau newydd neu sefydledig neu ddeilliant cwyn neu SEA, er enghraifft rhagnodi mynych DMARD o’i gymharu â protocolau gofal ar y cyd.

Pennwch y meini prawf:

Defnyddio tystiolaeth glinigol, canllawiau lleol neu genedlaethol etc.

Pennwch safonau:

Diffiniwch safon allai fod yn ddelfrydol, yn optimwm neu’n ofynnol.

Dyluniwch yr offeryn archwilio:

Yn aml gyda help staff gweinyddol mewnol, dyluniwch y broses o gasglu gwybodaeth - cofiwch y dylai hynny fod yn gymharol hawdd i’w wneud gyda’ch meddalwedd presennol neu defnyddiwch ddata sydd ar gael yn rhwydd o ffynonellau eraill.

Casglwch y data:

Mae angen pennu amserlen addas ar gyfer casglu data; bydd hynny yn dibynnu ar y testun dan sylw a’r niferoedd fydd eu hangen.

Cymharwch y canlyniadau:

Cymharwch y canlyniadau gyda’r safonau a osodwyd a phenderfynu ar unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud.

Rhowch newidiadau ar waith:

Cymhwyswch y newidiadau ar draws y sefydliad gan sicrhau bod pawb dan sylw yn ymwybodol o beth sydd yn newid a pham.

Ail gasgliad data:

Ar ôl cyfnod addas o amser, casglwch y data eto. Cymharwch y rhain gyda’r safonau a osodwyd a chanlyniadau’r casgliad data cyntaf.

Casgliadau:

Beth a ddysgwyd, a yw’r ymarfer wedi gwella ac wedi symud tuag at y safonau a osodwyd, a oes angen gwneud mwy o newidiadau?

Dylai'r wybodaeth yma eich helpu i gynhyrchu archwiliad cydlynol a gwerthfawr a dylai hynny yn ei dro eich helpu i wella eich ymarfer.

 

 


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau