Samplo ysbeidiol
Mae samplo ar hap yn tybio y gellir cymryd y sampl o boblogaeth ddiffiniedig o ddefnyddwyr neu achosion. Ond, nid yw ddefnyddwyr yn boblogaeth ststig, a bydd yr unigolion fydd yn rhan o’r boblogaeth defnyddwyr (h.y. y rhai sydd yn mynychu clinigau neu a dderbynnir i ysbyty) yn newid yn ystod yr archwiliad. O dan yr amgylchiadau yma, mae’r sampl yn aml yn cael ei bennu gan fylchau mewn amser; er enghraifft, pobl a derbynnir i’r uned ofal coronaidd i Ionawr i Fawrth - dull rhesymol os na effeithir ar gyfraddau derbyn ac ansawdd y gofal gan ffactorau tymhorol sylweddol.
- Sut mae Dewis Sampl Archwilio (UBHT 2005)
- Dewis maint sampl - y dull gwyddonol
- Mae cyfrifiadau mewn perthynas â maint sampl yn dibynnu ar bedwar o amrywiolion:
- Maint y boblogaeth
- Faint o gywirdeb sydd ei angen
- Faint o hyder sydd ei angen
- Pa mor aml ydych yn disgwyl y byddir yn bodloni meini prawf eich archwiliad
Mae Tabl 9 isod yn ymddangos mewn nifer o ganllawiau ar gyfer dewis meintiau samplau ac mae’n tybio mynychder o 50% (h.y. y bydd y safonau yn cael eu bodloni 50% o’r amser). Mae’n rhoi maint y sampl fydd ei angen arnoch er mwyn bod yn 95% yn sicr (maint yr hyder) y bydd y canlyniadau y cewch o’r sampl o fewn 5% (maint cywirdeb) o’r canlyniadau fyddech wedi eu cael ar gyfer eich poblogaeth gyfan petaech wedi casglu data ar bob un ohonynt. Mewn geiriau eraill, mae yna debygolrwydd o 1 mewn 20 na fydd eich canlyniadau yn gynrychioliadol.
maint y boblogaeth | Maint y sampl: 95% hyderus; +/- 5%) |
Maint y sampl: 90% hyderus; +/- 5%) |
---|---|---|
50 | 44 | 42 |
100 | 80 | 73 |
150 | 108 | 97 |
200 | 132 | 114 |
250 | 152 | 130 |
300 | 169 | 143 |
350 | 183 | 153 |
400 | 196 | 162 |
450 | 207 | 169 |
500 | 217 | 176 |
600 | 234 | 187 |
700 | 248 | 195 |
800 | 260 | 202 |
900 | 269 | 208 |
1000 | 278 | 213 |
1500 | 306 | 229 |
2000 | 322 | 238 |
3000 | 341 | 248 |
4000 | 351 | 254 |
5000 | 357 | 257 |
Gan ddefnyddio’r tabl yma, petai eich archwiliad yn dangos y bodlonwyd maen prawf X mewn 56% o’r achosion, gallech fod yn 95% sicr y byddai maen prawf X wedi cael ei fodloni mewn rhwng 51-61% o’r achosion petaech wedi edrych ar y boblogaeth gyfan.
Noder bod angen i feintiau sampl fod yn gymesurol llai wrth i faint y boblogaeth gynyddu; mae edrych ar 357 allan o 5000 o gleifion yn rhoi yr un canlyniad i chi â’r un sicrwydd a phetaech yn edrych ar 44 o boblogaeth o 50 o gleifion. Mae hynny’n wir oherwydd bod y tebygolrwydd y bydd y canlyniadau ddim yn gynrychioliadol yn lleihau’n ddramatig wrth i faint y boblogaeth gynyddu. Cofiwch, gall maint samplau amrywio yn ôl unrhyw un o’r canlynol:
- Mynychder disgwyliedig yr elfen yr ydych yn ei harchwilio
- Lefel yr hyder yr ydych yn ei ddymuno (nid oes raid iddo fod yn 95% - gallai fod yn 90%, 99% etc.)
- Lefel y cywirdeb yr ydych yn barod i’w dderbyn (gallai fod yn 5%, 10%, 1% etc.)