Cofnodion meddygol

Meddyg ar y ffôn yn edrych ar ffeil

Mae cadw cofnodion meddygol yn rhan bwysig o waith proffesiynol unrhyw feddyg; mae’n hyd yn oed mwy hanfodol allan o oriau. Yn aml iawn y cysylltiad cyntaf rhwng y claf a’r meddyg fydd yn gweithio OOH fydd y tro cyntaf a’r unig dro fydd y claf yn gweld y meddyg hwnnw. Felly mae’r cofnod meddygol yn bwysig er mwyn cofnodi’r rhyngweithio rhag ofn y gwneir cwyn ac er mwyn hwyluso dilyniant gyda meddyg teulu y claf yn ystod oriau. Mae yna nifer o faterion pwysig y mae angen eu cofnodi, a gall fod yn ddefnyddiol defnyddio’r templed isod er mwyn archwilio eich cofnodion.

Archwiliwch 20 o gofnodion meddygol yn olynol yr ydych wedi eu gwneud, gallent fod yn ymgynghoriadau wyneb yn wyneb neu dros y ffôn neu yn gymysgedd. Ceisiwch edrych arnynt fel petai’r cofnod meddygol yw’r unig gysylltiad rhyngoch chi a’r claf - gofynnwch “a yw hyn yn rhoi digon o wybodaeth i mi?”

Gellir defnyddio’r offeryn yma yr un mor llwyddiannus gan feddyg teulu sydd yn gweithio yn ystod oriau fel locwm neu gan bartner mewn practis. Dychmygwch mai dim ond eich cofnod chi sydd ar gael i’r meddyg nesaf fydd yn gweld y claf yma.

Noder bod yr enghraifft yma yn archwiliad pum cam yn unig, ond dylai fod yn eithaf syml i’w newid i archwiliad wyth cam drwy ailadrodd y cam casglu data fesul cyfnodau.

Templed Cofnodion Meddygol

Beth mae’r canfyddiadau yn ei ddweud wrthych am eich cofnodion meddygol?

A oes yna unrhyw bwyntiau dysgu neu gamau yn deillio o’r ymarferiad yma?

 Enghraifft o Gofnodion Meddygol

Beth mae’r canfyddiadau yn ei ddweud wrthych am eich cofnodion meddygol?

Roedd hwn yn brofiad diddorol i mi, ceisiais roi fy hun mewn sefyllfa fel pe na bawb wedi gweld y claf er mwyn gweld  a oedd yna  ddigon o wybodaeth i feddyg allu caffael digon o wybodaeth o’r cofnodion meddygol er mwyn deall beth ddigwyddodd yn yr ymgynghoriad. Roeddwn yn synnu o sylwi na oedd o leiaf 5 o’r ugain achos yn rhoi deilliant terfynol ac nad oedd y diagnosis yn glir. Yr un maes yr oeddwn yn teimlo ble nad oeddwn wedi cofnodi gwybodaeth y byddwn wedi holi y claf amdano oedd ynghylch cyffuriau a hanes meddygol, ni chofnodais negatifau (h.y. dim cyffuriau neu ddim PMH)

A oes yna unrhyw bwyntiau dysgu neu gamau yn deillio o’r ymarferiad yma?

Oes - byddaf yn ymdrechu’n galetach i gofnodi negatifau a byddaf yn cofnodi deilliant pob ymgynghoriad hyd yn oed os mai dim diagnosis posibl neu ddim camau i’w cymryd fyddai’r deilliant hwnnw. Byddaf yn ailadrodd yr ymarferiad yma y flwyddyn nesaf er mwyn cymharu.

 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau