Llythyrau atgyfeirio 2

Archwilio llythyrau atgyfeirio, acíwt

Beiro a stethosgop ar bapur

Awgrymir eich bod yn edrych yn fanwl ar 10 llythyr atgyfeirio acíwt yr ydych wedi eu hysgrifennu yn olynol. Bydd y person yr ydych wedi ei atgyfeirio ato yn cyfarfod â’r claf am y tro cyntaf (fel arfer) ac mae hanes llawn am y claf yn bwysig. Mae’n debygol y bydd y claf yn aciwtaidd wael, ac efallai y byddwch yn gallu rhoi gwybodaeth bwysig i’r meddyg sydd yn derbyn y claf. Gwiriwch y llythyrau atgyfeirio am y manylion canlynol, ac os yn briodol awgrymwch newidiadau. Fel meddyg teulu OOH efallai na fydd gennych fynediad at  yr holl wybodaeth fyddai gan feddyg arferol y claf, ac efallai y byddai hynny yn bwynt diddorol i fyfyrio arno.  Efallai y byddwch yn dymuno cynnwys eich myfyrdodau am y materion  a nodwyd a’r pwyntiau dysgu ar dempled ffurflen arfarnu ar-lein 3, a chynnwys eich dadansoddiad fel dogfennaeth ategol ychwanegol.

Gellir defnyddio’r offeryn yma yr un mor llwyddiannus gan feddyg teulu sydd yn gweithio yn ystod oriau fel locwm neu gan bartner mewn practis.

Noder bod yr enghraifft yma yn archwiliad pum cam yn unig, ond dylai fod yn eithaf syml i’w newid i archwiliad wyth cam drwy ailadrodd y cam casglu data fesul cyfnodau.

Templed archwilio llythyrau atgyfeirio acíwt  

Materion a nodwyd

Pwyntiau dysgu

 Enghraifft o archwilio llythyrau atgyfeirio acíwt

Materion a nodwyd

Pan edrychais ar fy llythyrau atgyfeirio roddwn yn eithaf hapus bod yna ddigon o dystiolaeth am y rheswm dros atgyfeirio a hanes am y gwyn a gyflwynwyd yn yr holl lythyrau a archwiliwyd. Roedd yr hanes am feddyginiaethau yn rhesymol ar y cyfan, ond yn brin mewn rhai allai fod yn bwysig. Roeddwn yn llawer gwaeth am gofnodi hanes seicogymdeithasol a hanes meddygol, ac mae hynny efallai yn adlewyrchiad o beidio ag adnabod y claf cyn yr ymgynghoriad. Ond efallai y buaswn mewn lle gwell i gael y wybodaeth hon o’i gymharu â’r meddyg fyddai’n derbyn y claf.

Pwyntiau dysgu

Roedd fy llythyrau atgyfeirio ar brydiau o ansawdd dda, ond roedd yna le i wella, roedd yna un yn benodol nad oedd yn cynnwys digon o wybodaeth. Mae’r gwasanaeth OOH yn darparu llythyrau derbyn strwythuredig i ni, ac rwyf yn syml wedi bod yn anwybyddu’r penawdau ac ysgrifennu testun rhydd. Byddaf yn ymdrechu i lenwi’r bylchau hyd yn oed gyda sylwadau negyddol (e.e. dim hanes meddygol perthnasol). Byddaf yn ail archwilio hyn y flwyddyn nesaf.

 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau