Rhagnodi personol

Audit of personal prescribing

Meddyg yn eistedd wrth ddesg yn ysgrifennu nodiadau o flaen cyfrifiadur a ffôn

Casglwch 20 o ymgynghoriadau yn olynol pan oedd rhagnodi yn fater - gallai hynny fod yn benderfyniad pwrpasol i beidio â rhagnodi yn ogystal â rhoi rhagnodiad. Gallai eich myfyrdodau gynnwys ffactorau sydd yn golygu bod rhagnodi yn  anodd e.e. analgesia neu dawelyddion cryf.

Noder bod yr enghraifft yma yn archwiliad pum cam yn unig, ond dylai fod yn eithaf syml i’w newid i archwiliad wyth cam drwy ailadrodd y cam casglu data fesul cyfnodau.

Templed Archwilio Rhagnodi Personol

Pwyntiau dysgu a nodwyd o’r achosion hyn

Camau i’w cymryd/newidiadau i’w gwneud

Enghraifft o Dempled Archwilio Rhagnodi Personol

Pwyntiau dysgu a nodwyd o’r achosion hyn

Roeddwn wedi synnu fy mod wedi rhagnodi 10 cwrs o wrthfiotigau yn yr 20 achos yma. O edrych ar fy nodiadau achos, mae’n ymddangos bod rhai o’r rhagnodiadau yma yn ddiangen mae’n debyg. Rwyf yn gwybod na fyddwn yn fy mhractis fy hun (yn ystod oriau) wedi rhagnodi cymaint, efallai mai cymryd yr opsiwn hawsaf oedd hynny. Hefyd defnyddiais bensodiasepinau ddwywaith, rwyf yn llawer mwy llyn yn ystod oriau.

Rhoddwyd loperamid yn amhriodol i’r claf hŷn  â D&V, ac roedd hynny yn gyfan gwbl o ganlyniad i bwysau gan y claf.

Camau i’w cymryd/newidiadau i’w gwneud

Gallaf weld o’r ymgynghoriadau yma ei bod yn haws fy mherswadio i ragnodi y tu allan i oriau mae’n debyg. Byddaf yn ymdrechu’n benodol i stopio hynny.

Byddaf yn darllen y protocol ar gyfer defnyddio nebiwleiddiwr ar gyfer plant a’u hôl-ofal, oherwydd nid oeddwn yn  gwbl sicr beth i’w neud yn yr achos hwnnw.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau