Sgiliau ymgynghori dros y ffôn

Meddyg ar y ffôn yn ysgrifennu mewn llyfr nodiadau

Gallai meddyg sydd yn ymwneud â gofal OOH fod yn delio’n bennaf neu yn gyfan gwbl â chleifion dros y ffôn. Mae angen gwahanol sgiliau ar gyfer y dasg hon oherwydd nad oes unrhyw gysylltiad uniongyrchol â’r claf, ni ellir defnyddio iaith y corff ac fel arfer ni fydd y Meddyg yn adnabod y claf. Mae digwyddiadau addysgol sydd yn delio â brysbennu dros y ffôn ar gael, ond efallai bydd dadansoddi eich sgiliau ffôn yn briodol. Awgrymir eich bod yn recordio 10 o ymgynghoriadau dros y ffôn yn olynol ac yn eu dadansoddi yn y ddogfen dempled isod. Mae’n debyg ei bod yn well gwneud hynny gyda recordiad o’r ymgynghored yn hytrach nag yn “fyw”.

Templed ymgynghori dros y ffôn

Myfyrio ar ganlyniadau/ymarfer

A oes angen i mi wneud unrhyw beth yn wahanol/anghenion dysgu a nodwyd?

Enghraifft o dempled ymgynghori dros y ffôn

Myfyrio ar ganlyniadau/ymarfer

Roedd hwn yn ymarferiad defnyddiol i mi a dyma’r tro cyntaf i mi wrando arnaf fy hun yn ymgynghori dros y ffôn. Y peth cyntaf a sylwais arno oedd pa mor anodd oedd barnu sut oeddwn yn teimlo ar y pryd, roedd y diffyg mewnbwn gweledol yn ei gwneud yn anodd i mi farnu pa mor briodol a pha mor ddifrifol yr oeddwn yn ymdrin â phryderon y cleifion. Rwyf wedi gwylio fideo ohonof fy hun yn ymgynghori, ac oherwydd iaith y corff rydych yn gallu cael gwell syniad. Felly mae’n rhaid bod y cleifion mewn sefyllfa anodd iawn.

Roeddwn yn synnu nad oeddwn yn cyflwyno fy hun i bawb (rhywbeth yr oeddwn yn meddwl fy mod yn ei wneud bob tro). Roeddwn yn hapus fy mod wedi cael digon o wybodaeth bob amser er mwyn fformiwleiddio diagnosis a/neu gynllun a fy mod wedi gweithredu’n briodol. Roedd yna ambell i ymgynghoriad pan oeddwn yn amlwg yn ychydig yn swta gyda’r cleifion; roedd yn ymddangos bod y cleifion hefyd yn sylwi ar hynny. Gall bod yn swta fod yn briodol ar brydiau, ond mae’n amlwg o’r recordiadau bod y cleifion yn wirioneddol bryderus am eu problemau.

Yn gyffredinol roedd yn ymddangos fy mod wedi gallu trafod setliad a datrysiad gyda'r cleifion, er bod y claf gyda’r boen abdomenol a’r claf gyda phoen cefn yn disgwyl mwy nag yr oeddwn yn gallu ei gynnig iddynt.

A oes angen i mi wneud unrhyw beth yn wahanol/anghenion dysgu a nodwyd?

I ddechrau, yr anhawster o ran dadansoddi tymer y “meddyg” - ie, fi! Roedd y diffyg ysgogiad gweledol yn broblem er fy mod wedi perfformio’r ymgynghoriad. Yn y dyfodol byddaf yn fwy ymwybodol o’r anhawster yma ac yn ceisio cyflwyno mwy o ysgogiadau llafar “mm, ym, ie”.

Yn ail, roedd nifer o’r ymgynghoriadau yn fyrrach nag yr oeddwn wedi ei ddychmygu ar y pryd, roeddwn yn tueddu i reoli’r rhan derfynol - roeddwn yn defnyddio’r ymadrodd “mae hynny’n OK felly ydi?” bedair gwaith gan derfynu’r ymgynghoriad felly.

Yn gyffredinol rwyf yn hapus gyda’r deg ymgynghoriad yma, mae yna ychydig o le i wella a byddaf yn ailadrodd yr ymarferiad ymhen blwyddyn.

 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau