Yr ail gylch
Erbyn hyn mae’r cylch archwilio bron yn gyflawn, ond heb ail werthuso’r gofal ni fydd yn bosibl gweld a roddwyd yr argymhellion ar waith ac a yw lefel y gofal wedi gwella.
- Ar y pwynt yma efallai y byddwch yn dymuno ailymweld â’ch meini prawf er mwyn gweld a oes angen eu newid neu eu mireinio (gall newid y meini prawf ar y cam yma effeithio’n uniongyrchol ar y gallu i gymharu’r casgliad data cyntaf gyda’r ail gasgliad, a mewn gwirionedd byddwch efallai yn ailddechrau cylch archwilio cyntaf o’r newydd. Felly dylid ystyried yn ofalus unrhyw newid arfaethedig i feini prawf).
- Efallai y byddwch eisiau codi’r safonau (neu mewn achosion prin, eu gostwng os ydych yn teimlo bod y safonau blaenorol wedi bod yn anghyraeddadwy yng ngoleuni canfyddiadau newydd). Nid yw codi neu ostwng safonau yn effeithio o gwbl ar y gallu i gymharu’r casgliad data cyntaf a’r ail gasgliad cyn belled na newidir y meini prawf.
- Dylai cynlluniau gweithredu mewn perthynas ag ymarfer gynnwys dyddiad ail archwilio bob amser.
Bydd yr ail gylch archwilio yn hanfodol ar gyfer archwiliadau a gyflwynir mewn arfarniadau at ddibenion ail-ddilysu. Dylai’r ail gylch archwilio digwydd ymhen amser priodol ar ôl y cylch archwilio cyntaf, a bydd yr amser a ddewisir yn dibynnu ar y pwnc a astudir, a dylai fod yn gyfnod priodol er mwyn caniatáu i newid ystyrlon ddigwydd. Mewn perthynas â’r flwyddyn arfarnu, gall yr archwiliadau a gyflwynir fod yn archwiliadau pum cam i ddechrau (fydd yn cynnwys y cylch archwilio cyntaf yn unig) allai wedyn ysgogi cofnod ar y PDP gyda chynllun i gwblhau’r ail gylch archwilio yn ystod blwyddyn arfarnu ddilynol.