Y meini prawf

3 o beli glas gyda gweithdrefnau, trên archwilio a hyfforddwr wedi’u hysgrifennu uchod

Meini prawf yw elfennau o ofal neu agwedd o ofal y gellir ei fesur er mwyn asesu ansawdd. Mae’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer rhagoriaeth glinigol. yn awgrymu’r diffiniadau canlynol o feini prawf

Eitem neu amrywiolyn sydd yn galluogi cyrraedd safon (bras amcan gofal) ac i werthuso a gyflawnwyd hynny neu beidio (Y Coleg Nyrsio Brenhinol, 1990).

  • Elfen o ofal iechyd y gellir ei diffinio a’i mesur sydd yn disgrifio ansawdd y gellir ei ddefnyddio er mwyn asesu  (Irvine ac Irvine, 1991)
  • Datganiad a ddatblygwyd yn systematig y gellir ei ddefnyddio er mwyn asesu priodoldeb penderfyniadau, gwasanaethau a deilliannau gofal iechyd penodol.

Dylai meini prawf;

  • Fod yn benodol, ysgrifennwch ddatganiadau sydd yn diffinio beth gaiff ei fesur
  • Cynrychioli elfennau o ofal y gellir eu mesur yn wrthrychol

Strwythur         

  • Bydd yr holl gleifion fydd yn gofyn am apwyntiad brys yn cael eu gweld ar yr un diwrnod 

Proses           

  • Dylai’r holl gleifion sydd yn cael therapi amnewid thyroid gael eu gweld o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o bymtheg mis i gael adolygiad blynyddol o feddyginiaeth ac arsylwadau gwaelodlin.

Deilliant         

  • Dylai’r holl gleifion sydd yn cymryd Levothyroxin fod â lefelau THS sydd o fewn yr ystod a argymhellir

Gallai enghraifft o feini prawf fod yn; - Dylid fod wedi mesur HbAic yr holl gleifion â diabetes o fewn 12 mis diwethaf

Dylai meini prawf gael y priodoleddau canlynol (CGSDU 2002);

Perthnasol

  •  Dealladwy
  •  Mesuradwy
  •  Derbyniol

Mae'n bwysig bob y bobl sydd yn ymwneud â’r archwiliad yn cytuno ac yn agored i wneud y newidiadau angenrheidiol

Cyraeddadwy

Byddwch yn realistig ynghylch beth allwch ei wneud, Byddwch yn ymwybodol o'ch adnoddau, pobl, amser, offer, arian etc.

Yn olaf, ceisiwch gadw nifer y meini prawf i uchafswm o 2 neu 3 (mae’n gwbl dderbyniol -  ac efallai yn ddymunol - cael dim ond un maen prawf ar gyfer archwiliad)

Argymhellir bod y meini prawf yn deillio o’r dystiolaeth gyfredol orau sydd ar gael, megis yr hyn sydd yn gynwysedig mewn;  

  •  canllawiau cenedlaethol neu leol (pan maent yn bodoli)
    •  Archwiliadau blaenorol a wnaethpwyd gennych chi neu gydweithwyr lleol

Erthyglau ymchwil, datganiadau consensws, meta ddadansoddiadau, cronfa ddata Cochrane a, phan fo’n briodol, dylid cytuno arnynt o ganlyniad i drafodaeth tîm.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau