OOH a derbyn i ysbyty
Mae meddyg teulu sydd yn gweithio yn OOH yn debygol o dderbyn nifer o bobl i ysbyty yn ystod pob shifft - yn enwedig os bydd yn perfformio sesiwn “symudol”. Hefyd bydd yna nifer o ffactorau fydd yn dylanwadu ar y penderfyniad i dderbyn na fyddai o reidrwydd yn bodoli mewn ymgynghoriad yn ystod oriau. Dyma rai ffactorau y byddwch efallai yn dymuno eu hystyried:-
- Diffyg gwybodaeth flaenorol am y claf
- Diffyg cymorth (nyrsio, canlyniadau labordy, perthnasau etc.) OOH
- Anhawster wrth archwilio’r claf (os caiff ei weld mewn cartref â golau gwael heb unrhyw gyfleusterau archwilio)
- “Pethau’n ymddangos yn waeth yn ystod y nos”
- Alcohol +/- cyffuriau
- Eich anghenion eich hun o ran amser - e.e. 5 claf yn disgwyl am alwad
Mae’n debyg bod yna nifer o amgylchiadau eraill sydd yn effeithio ar y penderfyniad hwnnw. Gall yr adran ganlynol eich helpu i ddadansoddi y pwysau sydd arnoch i anfon claf i ysbyty a hefyd i’ch galluogi i drafod cymysgedd o achosion a welir mewn sefyllfa frys.
Cofnodwch 10 o achosion dilynol Allan o Oriau pan ystyriwyd anfon i ysbyty. Mae penderfyniad pwrpasol i beidio ag anfon yr un mor bwysig a phenderfyniad i anfon.
Gellir defnyddio’r offeryn yma yr un mor llwyddiannus gan feddyg teulu sydd yn gweithio yn ystod oriau fel locwm neu gan bartner mewn practis, er y gallai cymryd mwy o amser i gasglu’r data.
Noder bod yr enghraifft yma yn archwiliad pum cam yn unig, ond dylai fod yn eithaf syml i’w newid i archwiliad wyth cam drwy ailadrodd y cam casglu data fesul cyfnodau.
Pwyntiau dysgu a nodwyd o’r achosion hyn
Camau i’w cymryd/newidiadau i’w gwneud
Enghraifft o OOH a derbyn i ysbyty
Pwyntiau dysgu a nodwyd o’r achosion hyn
Cymrodd 3 sesiwn (18 awr) i mi gasglu’r 10 achos. Rwyf yn teimlo bod y rhan helaeth o’r achosion yma yn dangos gofal clinigol priodol. Ond mae yna bedwar achos y byddwn efallai wedi eu trin yn wahanol petaent wedi bod yn gleifion fy hun yn ystod oriau.
Rwyf yn cofio’n dda iawn yr ymgynghoriad ynghylch y plentyn 18 mis oed a’r tad ymosodol. Roeddwn yn teimlo dan fygythiad a dewisais yr opsiwn hawdd i dynnu fy hun allano sefyllfa anodd. Cyfeiriais at y broblem ynghylch y tad ymosodol gyda’i feddyg teulu ei hun ac ar ôl i mi adael y cartref fe ffoniais yr SHO Paediatreg i’w rhybuddio. Nid oedd angen derbyn y plentyn i’r ysbyty o safbwynt meddygol, ond rwyf yn credu nad oedd gen i lawer o ddewis. Nid wyf yn aml yn cael problemau gyda chleifion ymosodol OOH ond roedd yr achos hwnnw yn fy atgoffa bod yna broblemau o ran diogelwch personol yn codi ar brydiau. Mae yna ddigwyddiad wedi ei gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf fydd yn delio â’r claf ymosodol a byddaf yn gwneud pob ymdrech i’w fynychu.
Efallai nad oedd y dyn 74 oed gyda pheswch yr anfonais i’r ysbyty yn ddewis priodol. Roeddwn wedi cyrraedd diwedd fy shifft ac roeddwn yn flinedig, roedd yn haws ei anfon i’r ysbyty. Rwyf wedi myfyrio ar y penderfyniad hwnnw a byddaf yn gwneud pob ymdrech i beidio gwneud hynny eto.
Mae’r ddynes ddiabetig 67 oed gyda’r UTI oedd yn colli rheolaeth diabetig yn codi dau fater. I ddechrau, nid oedd gennyf yr offer priodol (ketostix) - ers hynny rwyf wedi trafod hynny gyda’r Cyfarwyddwr Meddygol OOH ac erbyn hyn maent yn rhan o’r offer safonol ( yn ddigon rhyfedd byddent wedi bod ar gael yn y ganolfan). Yr ail fater yw pwynt dysgu personol - nid oeddwn yn teimlo’n hyderus o gwbl o ran addasu dos inswlin y ddynes (y gwir reswm dros ei hanfon i ysbyty). Rwyf wedi cael problemau cyffelyb yn ystod oriau ac rwyf wedi nodi bod diabetes yn gyffredinol yn un o fy anghenion dysgu, ond erbyn hyn gyda mwy a mwy o gleifion diabetig Math -2 yn newid i inswlin rwyf angen diweddaru fy nulliau rheoli.
Roedd y dyn 52 oed gafodd 3 phwl byr o boen yn y frest wedi creu anhawster i mi, ac oherwydd eu bod wedi swnio’n gardiaidd o ran natur, fy ngreddf oedd ei anfon i’r ysbyty. Wrth fyfyrio ar hynny roedd y pyliau yma yn gysylltiedig â rhuthro i fyny bryn ger ei gartref a phob un wedi para am 3 munud - mae’n debyg y dylwn fod wedi rhoi chwistrelliad GTN, cyngor i gymryd pwyll a’i atgyfeirio at ei feddyg teulu ei hun y diwrnod canlynol. Rwyf yn teimlo ychydig yn ddryslyd gydag archwiliad acíwt am angina newydd posibl, ac oherwydd hynny efallai bod angen i mi ddarllen protocolau lleol.
Camau i’w cymryd/newidiadau i’w gwneud
O ystyried yr uchod hoffwn wneud y newidiadau canlynol:
- Mynychu digwyddiad ynghylch delio â’r claf ymosodol
- Dysgu mwy am ddiabetes - yn benodol materion ynghylch defnyddio inswlin mewn math-2 DM
- Archwilio fy mathrwm atgyfeirio unwaith eto er mwyn adnabod y cleifion yr wyf yn eu hanfon i’r ysbyty fel “opsiwn hawdd” efallai
- Canfod protocolau lleol neu genedlaethol mewn perthynas â rheoli angina sydd yn dechrau o’r newydd