Dadansoddi

Pwy fydd yn dadansoddi’r data?

cyfrifiannell, sbectol a ffôn ar bapur

Dylid fod wedi penderfynu’n gynnar yn y broses archwilio ar y ffordd yr ydych yn dadansoddi eich data oherwydd gallai hynny ddylanwadu ar y math o ddata yr ydych yn ei gasglu a’i ansawdd. Gall dadansoddi data amrywio o rifau, canrannau a chyfartaleddau syml i ystadegau mwy cymhleth. Fel rheol, mae symlrwydd yn sicrhau bod pawb yn y tîm yn deall sut y cafwyd canlyniadau, a dylai hynny fod yn hawdd ei ddeall i gleifion a rheolwyr os bydd yr archwiliad i’w ddefnyddio ar gyfer cynllunio newidiadau adeiladol. Mae dadansoddiad mwy cymhleth yn elwa o arbenigedd ystadegol, felly argymhellir ei gadw’n syml.

Mathau o ddata

Data rhifol

Mae'n debygol y bydd peth o’r eitemau data y byddwch yn eu casglu yn werthoedd rhifol (e.e. oedran, hyd arhosiad yn yr ysbyty, lefel glwcos gwaed ac yn y blaen).

Data ticio bocsys

Mae’n debygol y bydd peth o'ch eitemau data yn atebion i gwestiynau Ie/Na, neu opsiynau blychau ticio o restrau a ddewisiadau eraill. Mewn achosion o’r fath mae’n arferol  adio nifer yr atebion a gofnodwyd ar gyfer pob opsiwn a mynegi’r cyfanswm  fel rhif syml ac fel canran.

Data testun rhydd

Os byddwch yn derbyn data testun rhydd, allwch chi grwpio sylwadau i themâu neu gategorïau? (h.y. fel petaech yn creu opsiynau blychau ticio ar gyfer y ffurflen gasglu data). Efallai y byddwch hefyd eisiau ystyried atgynhyrchu rhai sylwadau air am air yn eich adroddiad os byddant yn arbennig o berthnasol (UBHT 2005).

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau