Diffiniad

Diffiniadau o Archwiliad Clinigol

Geiriau gwyn ar y bwrdd gwyn gydag Archwiliad mewn print mawr

Mae archwilio yn ymwneud ag edrych ar beth ydych yn ei wneud gyda’r nod o sefydlu canllawiau derbyniol a gwerthuso’r deilliant. (Ovretveit J, 1992)

Yn syml, mae Archwiliad Clinigol yn ffordd o fesur ansawdd y gofal iechyd a ddarperir gan wasanaeth. (Van der Gaag A, 1993)

Nid yw archwiliad yn ymwneud yn bennaf â chanfod diffyg neu anghysondeb, ond ag archwilio ymarfer er mwyn gwella effeithiolrwydd. (Dickens P, 1994)

Mae Archwiliad Clinigol yn broses gwella ansawdd sy'n ceisio gwella gofal a chanlyniadau cleifion drwy adolygu gofal yn systematig yn unol â meini prawf pendant a gwneud newidiadau (NICE 2002).

Beth yw Manteision Archwiliad??

Mae’n helpu i ateb:

BETH YDYM YN CEISIO EI WNEUD? (Beth yw’r arferion gorau yn yr ardal yma?)

PA MOR DDA YDYM YN GWNEUD HYNNY? (A yw’r arferion presennol yn adlewyrchu arferion gorau?)

SUT YDYM YN GWYBOD HYN? (Drwy fesur un yn erbyn y llall)

SUT ALLWN WNEUD HYNNY YN WELL? Adlewyrchu ar ganlyniadau ein harchwiliad a phenderfynu beth allwn ei wneud yn wahanol)

Gall archwiliad:

  • Greu newid
  • Lleihau gwallau sefydliadol a chlinigol cynhenid
  • Gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd
  • Gwella deilliannau
  • Dangos arfer dda
  • Helpu i fodloni anghenion a disgwyliadau cleifion
  • Ysgogi datblygiad proffesiynol parhaus
  • Adnabod meysydd risg (busnes, personél a chlinigol)

 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau