Archwiliad personol

Meddyg yn darllen ffeil

Mae’r rhan fwyaf o offerynnau archwilio yn seiliedig ar y syniad bod gwella systemau a phrosesau yn arwain at well gofal i gleifion. Mewn ymarfer cyffredinol, er bod llawer o’r hyn yr ydym yn ei wneud mewn timau, mae yna bwyslais mawr ar y gofal personol a’r berthynas rhwng meddyg unigol a’r claf. Mae strwythur ymarfer cyffredinol yn y DU yn newid, gyda chymaint â chwarter y meddygon teulu yn dewis gweithio y tu allan i’r system draddodiadol o ddarparu gofal iechyd mewn practis ac yn dewis cael gyrfaoedd portffolio, gan weithio’n bennaf neu’n gyfan gwbl y tu allan i oriau neu’n hyblyg fel locwm.

Yng Nghymru rydym yn tueddu i adnabod patrwm gwaith meddygon teulu o dan un neu ragor o benawdau, partneriaid, cyflogedig, ar gadw, sesiynol, tu allan i oriau a rhai sy’n dychwelyd. Gall archwiliadau sydd yn seiliedig ar y system draddodiadol eithrio rhai o’r grwpiau yma rhag archwilio eu hymarfer eu hunain. Hyd yn oed wrth weithio mewn amgylchedd practis ble mae wedi setlo, efallai y bydd unigolyn yn dymuno edrych yn agosach ar y berthynas unigol rhwng y meddyg a’r claf. Mae’r adran yma yn cynnwys nifer o enghreifftiau o archwiliadau y gellir eu perfformio’n hawdd ar y lefel honno.

Mae’r rhan fwyaf o systemau a phrosesau yn dibynnu ar ddata hanesyddol a gesglir yn electronig ar adeg penodol mewn amser. Bydd y rhan fwyaf o archwiliadau personol yn dibynnu ar yr unigolyn yn casglu data mewn amser real neu drwy ddadansoddiad ôl-weithredol o byliau byr o weithgaredd. Wrth archwilio’r agweddau personol yma o ofal, mae’r data a gesglir yn aml yn oddrychol ac yn yr un modd mae yna  rai enghreifftiau o safonau cenedlaethol y gelir eu defnyddio fel meincnodau. Mewn perthynas â’r materion yma bydd angen cymhwyso rhyw fath o wrthrychedd allanol i’r broses o dadansoddi’r setiau data. Felly mae’n hanfodol bod y math yma o archwiliad yn cael ei drafod gyda chydweithiwr, mentor neu yn ystod arfarniad.

Mae’r un camau proses yn gymwys i’r math yma o archwiliad ag ydynt i’r cylch archwilio. Ar ôl i chi archwilio eich ymarfer presennol mae’n hollbwysig bod newidiadau yn cael eu cynllunio a bod gwelliannau yn cael eu nodi yn briodol drwy gasglu mwy o ddata.

Gall meddygon teulu sydd yn gweithio y tu allan i amgylcheddau practis traddodiadol ddefnyddio archwiliadau hefyd i ddylanwadu ar systemau. Gallai enghreifftiau o hynny fod yn unigolyn sydd wedi sylwi ar ddiffyg neu wendid posibl mewn sefydliad y maent yn gweithio iddo. Pe codwyd y mater fel digwyddiad arwyddocaol posibl, gallai’r meddyg teulu dan sylw awgrymu a pherfformio’r archwiliad o’r system honno. Cydnabyddir y gall arian ac amser neilltuedig fod yn anodd i’w caffael.

Mae archwiliadau enghreifftiol yn cael eu dangos ar dudalennau dilynol (Noder bod yr holl enghreifftiau a roddir yn dangos y cylch archwilio cyntaf yn unig).

 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau