Derbyniadau brys

Meddyg yn teipio ar gyfrifiadur, ar y ffôn, wrth ddesg gyda llechen a photeli arno

Mae anfon claf i’r ysbyty fel achos brys yn elfen bwysig o ofal Ymarfer Cyffredinol. Yn aml bydd claf yn cael ei dderbyn gyda symptomau sydd yn ymddangos yn rhai dramatig, ond yn cael ei ryddhau yn iach y diwrnod canlynol. Mae gan feddygon ysbytai fynediad cyflym at brofion diagnostig a gallent ddiystyru salwch difrifol yn gyflym, ac mae hynny yn un rheswm da pam ein bod yn anfon cleifion i ysbyty. Felly mae’n anodd mesur yn wrthrychol pryd y mae’n briodol anfon claf i ysbyty, oherwydd yn aml bydd y meddyg teulu yn cael ei roi mewn sefyllfa  o fod angen anfon y claf er mwyn diystyru cyflwr difrifol.

Efallai bydd y tabl canlynol yn eich helpu i archwilio eich rhesymau dros anfon claf i’r ysbyty a gall amlygu materion i’w trafod. Ceisiwch ddadansoddi eich 10 achos brys nesaf yr ydych yn eu hanfon i’r ysbyty.  Efallai y byddwch yn dymuno cynnwys eich myfyrdodau am y materion  a nodwyd a’r pwyntiau dysgu ar dempled ffurflen arfarnu ar-lein 3, a chynnwys eich dadansoddiad fel dogfennaeth ategol ychwanegol.

Templed Derbyniadau Brys

 A oes yna unrhyw faterion y mae’r 10 achos chod yn eu codi?

 A amlygwyd unrhyw anghenion dysgu?

Enghraifft o Dderbyniadau Brys

A oes yna unrhyw faterion y mae’r 10 achos chod yn eu codi?

Cymerodd y 10 achos yma 16 diwrnod gwaith i’w casglu yn cynnwys un sesiwn min nos OOH (sesiwn yn y “ganolfan”). Rwyf hefyd yn nodi bod y rhan fwyaf o’r derbyniadau yn rhai hwyr y bore /cynnar yn y prynhawn - mae’n rhaid bod hynny yn rhoi straen mawr ar unedau derbyn ysbytai. Rwyf yn credu bod yr holl dderbynebau yn briodol er gwaethaf canfyddiadau negyddol mewn nifer o’r achosion. Un achos sydd yn aros yn y cof oedd y ddynes â CA metatastig yn y coluddyn, roedd wedi colli rheolaeth ar symptomau ac wedi bod yn teimlo’n sâl am 3 diwrnod cyn iddi fy ffonio. Nid oedd eisiau creu trafferth i’r meddyg na’r nyrs gofal lliniarol oedd yn ymwneud â’i hachos.

A amlygwyd unrhyw anghenion dysgu?

Trafodwyd achos y ddynes oedd â’r boen yn ein cyfarfod tîm amlddisgyblaethol ac amlygwyd y ffaith nad oedd eisiau creu trafferth i ni - roedd wedi bod yn OK pan y’i gwelwyd 1 wythnos cyn ei derbyn a chynlluniwyd ymweliad arall ar gyfer wythnos yn ddiweddarach. Canlyniad y cyfarfod oedd nad oedd yna lawer y gellid fod wedi ei wneud oherwydd pwysleisir i’r cleifion bob amser y gallent gysylltu naill ai â’r feddygfa neu’r tîm gofal lliniarol ar unrhyw adeg. Adolygwyd y wybodaeth a roddir i gleifion gan y tîm gofal lliniarol ac mae hynny yn atgyfnerthu’r neges honno yn gadarn. Y mater arall yw’r wlser gastrig sydd o bosibl yn gysylltiedig â melocsicam - roeddwn yn deall bod hwn yn atalydd cox-2 ac felly yn fwy diogel na NSAID traddodiadol, ond pan ddarllenais am hyn gwelais bod NICE yn cymeradwyo eu defnyddio mewn cleifion hŷn ond bod tystiolaeth  ddiweddar yn y BMJ yn bwrw amheuaeth ar hynny. Byddaf yn ystyried hyn yn fwy gofalus yn y dyfodol.

 

 

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau