Pam archwilio?
Rhai cyfleoedd proffesiynol
Mae yna fanteision posibl i'r unigolyn a’r sefydliad ogystal â chleifion. Gall ymgymryd ag archwiliad arwain at:
- Gwell ansawdd o ran gofal
- Teimlad o gyflawniad personol a phroffesiynol
- Datblygiad proffesiynol parhaus (CPD) perthnasol
- Gweithio fel tîm yn well
- Gwell cyfathrebu mewn sefydliad
- Gwell dealltwriaeth o’r strwythur a’r prosesau sydd yn weithredol yn y sefydliad
- Gwell sgiliau seiliedig ar ymarfer megis adnabod, rheoli a defnyddio gwybodaeth
- Gwell perfformiad o ran Contract GMS
Ai archwiliad neu ymchwil clinigol yw hyn?
Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng archwiliad ac ymchwil.
Mae ymchwil yn ymwneud â chreu gwybodaeth newydd (pa driniaeth sydd orau?)
Mae Archwiliad Clinigol yn ymwneud â chymryd y wybodaeth honno a sicrhau ein bod ni’n gwneud y pethau sy’n gweithio orau, ac yn eu gwneud nhw’n effeithiol
Mae Tabl 1 isod yn dynodi’r prif wahaniaethau
Ymchwil | Archwiliad |
---|---|
Darganfod y peth cywir i’w wneud | Penderfynu a yw’r peth cywir yn cael ei wneud |
Cyfres o brosiectau untro | Cyfres gylchol o adolygiadau |
Casglu data cymhleth | Casglu data arferol |
Arbrawf wedi ei ddiffinio’n drylwyr | Adolygiad o beth mae Gweithwyr Iechyd Proffesiynol yn ei wneud mewn gwirio |
Yn aml mae’n bosibl cyffredinoli’r canfyddiadau | Ddim yn bosibl cyffredinoli’r canfyddiadau |