Paratoi a chynllunio

Cyfrifiannell a beiro ar bapur

Bydd dyluniad unrhyw brosiect archwilio yn cynnwys ystyriaethau cynnar i’r canlynol:

  • Faint o amser fyddai'n ei gymryd i gynnal yr archwiliad?
  • A oes gennych yr amser a’r brwdfrydedd i gwblhau’r archwiliad? 
  • Pa wybodaeth sydd ei hangen arnaf a sut fyddaf yn ei chasglu?

Penderfynwch pa ddata sydd yn angenrheidiol er mwyn gallu ateb cwestiwn eich archwiliad. Dylai pob eitem o ddata fod yn gysylltiedig â maen prawf penodol. Peidiwch â chasglu gwybodaeth oherwydd y gallai fod yn ddiddorol neu’n ddefnyddiol yn unig - efallai na fydd yn ychwanegu dim at eich prosiect a bydd yn golygu treulio mwy o amser ar y prosiect.

Gall gwahanol gasglwyr data ddehongli rhai cofnodion mewn gwahanol ffyrdd. Sefydlwch gysonderau o’r dechrau. Sicrhewch bod systemau casglu data yn clir a chytunedig. Yn ymarferol, dim ond un person sydd yn casglu data beth bynnag.

A ddylwn beilota fy null casglu data?

Mae peilota eich offeryn ar ychydig o achosion yn bwysig cyn ichi gynnal unrhyw archwiliad. Bydd yn eich helpu i ddatrys unrhyw broblemau ac yn sicrhau eich bod yn cael eu wybodaeth gywir yn hytrach na swm o ddata na ellir ei ddefnyddio ‘ (UBHT 2005). 

Ar faint o gofidion / digwyddiadau ddylem edrych?

Wrth benderfynu a ydych am edrych ar bob claf yn eich poblogaeth, neu ddim ond sampl ohonynt, ystyriwch:

Pa mor gritigol yw’r elfen o ofal yr ydych yn ei harchwilio? 

A yw mor gritigol fel bo angen i chi edrych ar bob claf unigol?

Faint o amser sydd gennych i gynnal yr astudiaeth? 

Os bydd eich poblogaeth yn cynnwys 1000 o gleifion a bod y data sydd ei angen arnoch ond yn gynwysedig yn eu nodiadau achos, byddwch bron yn sicr angen archwilio sampl o’r boblogaeth.

Dyfalai’r sampl a ddewisir fod yn ddigon bach i ganiatáu casglu data yn gyflym ond yn ddigon mawr i fod yn gynrychioliadol.

Sut ddylem ddewis ein sampl / poblogaeth darged?

Yn ddibynnol ar destun eich archwiliad, efallai y byddwch yn archwilio elfen o driniaeth / gofal sydd yn gymwys i bob claf (e.e. trefnu apwyntiad). Ond mae’n fwy tebygol y bydd gennych ddiddordeb mewn grŵp diffiniedig o bobl sydd yn rhannu nodweddion penodol: fel arfer y ffaith bod ganddynt yr un cyflwr meddygol, neu eu bod wedi derbyn yr un math o driniaeth.  Er enghraifft, cleifion dros 50 oed â chlefyd y galon Ischaemig - dyna yw poblogaeth eich archwiliad.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau