Dewis testunau
Mae angen meddwl a chynllunio yn ofalus mewn perthynas â dewis eich maes pwnc a chanolbwyntio ar yr elfen neu weithgaredd penodol yr ydych eisiau ei adolygu. Gall unrhyw brosiect archwilio clinigol fod angen buddsoddiad neu adnoddau (amser, ymrwymiad a dealltwriaeth dechnegol). Mae cyfranogiad staff o ran dewis testunau yn galluogi i bryderon am ofal gael eu hadrodd a’u trafod. Nid yw cyfranogiad eang o ran dewis testun yn angenrheidiol bob amser, ond gall gyfrannu at leihau gwrthwynebiad i newid (NICE 2002).
Gellid penderfynu ar destun yr archwiliad o ganlyniad i broblem a ganfuwyd mewn ymarfer bob dydd. Rydym wedi ystyried y tair prif elfen o ddarparu gofal iechyd y gellir eu harchwilio
Gall archwiliadau strwythurol olygu eich bod yn cynnal archwiliad mewn perthynas â pha adnoddau sydd ar gael i chi, megis offer diagnostig, safleoedd, mynediad at wasanaethau cymorth, sgiliau, staffio etc.
Mae archwiliadau o broses yn canolbwyntio ar beth gaiff ei wneud i glaf neu sut mae protocolau clinigol a chanllawiau yn gweithio yn ymarferol, adalw cleifion am archwiliadau, triniaeth, cadw cofnodion, cyfathrebu etc. O dan yr adran yma gallech gynnwys archwiliadau personol, er enghraifft archwiliad o’ch llythyrau atgyfeirio, rhesymau dros dderbyn mewn achosion brys a mesuriadau eraill sydd yn effeithio’n uniongyrchol ar y ffordd yr ydych yn darparu gofal iechyd i gleifion.
Archwiliadau deilliant. Gallwch archwilio pwyntiau terfyn darpariaeth gofal, megis effeithiolrwydd gofal neu wasanaethau o ran iechyd y claf, bodlonrwydd neu hwylustod.
Wrth ystyried testun ystyriwch
- A yw’r testun dan sylw yn golygu cost uchel, llwyth gwaith mawr, neu risg i staff neu ddefnyddwyr?
- A oes yna dystiolaeth o broblem ddifrifol o ran ansawdd, er enghraifft cwynion gan gleifion neu gyfraddau cwyno uchel? Gall archwiliad gael ei ysgogi weithiau gan ddigwyddiadau arwyddocaol.
- A yw tystiolaeth dda yn gallu hysbysu safonau, er enghraifft adolygiadau systematig neu ganllawiau clinigol cenedlaethol?
- A yw’r broblem dan sylw yn agored i newid?
- A oes potensial i gyfranogi yn lleol neu mewn prosiect archwilio cenedlaethol?
- A yw’r testun yn flaenoriaeth i’ch tîm practis?
Gallai testunau ddeillio o:
- Strategaeth Genedlaethol (e.e. canllawiau NICE)
- Strategaeth leol
- Tystiolaeth o ymchwil newydd
- Problemau lleol
- Archwiliadau clinigol blaenorol
- Digwyddiadau Niweidiol
- Cwynion a sylwadau defnyddwyr
- Diddordeb personol
Dylai’r tîm practis ystyried bod unrhyw destun a ddewisir yn:
- Debygol o fod yn fuddiol i’r claf
- Tebygol o fod yn fuddiol i’r practis
- Perthnasol i ymarfer proffesiynol (yn bersonol neu o ran y gwasanaeth)
- Perthnasol i ddatblygiad proffesiynol
- Arwyddocaol o ran proses a deilliannau gofal i gleifion
- Cynnig potensial i wella
- Gallu cynnal diddordeb a chyfranogiad aelodau’r tîm
- Yn debygol o ad-dalu’r buddsoddiad o ran amser, arian a’r ymdrech (Machado, 1997)
Gall cynnal Dadansoddiad o Effaith Ansawdd eich helpu i ddewis eich testun os awgrymir mwy nag un. Ar gyfer pob testun ystyriwch y priodoledd isod (CGSDU 2002)
Amledd (pa mor aml mae’r sefyllfa neu’r cyflwr yma yn codi)
- Graddau Risg (y tebygolrwydd y bydd rhywbeth yn mynd o chwith neu ddim yn cael ei wneud yn dda)
- Lefel y Pryder (pa mor bwysig yw’r mater)
- Difrifoldeb y Deilliant (i ba raddau mae’n effeithio ar ddeilliannau iechyd)
Mae’r Uned Cymorth a Datblygu Llywodraethiant Clinigol (CGSDU) yn cynnig system sgorio, gyda phwynt am bob un o’r pedwar datganiad, a phan fo sgôr o 3 yn golygu perthnasedd/effaith uchel, 2 yn golygu perthnasedd/effaith gymedrol, ac1 yn golygu perthnasedd/effaith isel, a 0 yn golygu dim perthnasedd/effaith. Drwy agregu’r sgoriau ym mhob un o’r pedwar maes yma mae’n bosibl diffinio pa un, yn ôl y model yma, fydd yn arwain at yr effaith gyffredinol fwyaf.
Mar Tabl 2 yn crynhoi’r prif bwyntiau sydd yn diffinio addasrwydd archwiliad a gynigir;
Dewis da | Dewis gwael |
Canolbwyntio ar y claf | Canolbwyntio ar y meddyg oni bai fod yr archwiliad wrth gwrs wedi ei ddylunio’n benodol i fesur perfformiad meddyg |
Posibl ei fesur | Ddim yn bosibl ei fesur |
Adnoddau a ddyrannwyd (amser / arian) | Adnoddau na ddyrannwyd (amser / arian) |
Problem sydd yn codi yn aml | Ond yn digwydd yn anaml ---mae’r pwynt yma weithiau yn amherthnasol yn arbennig wrth ddelio â digwyddiadau prin arwyddocaol neu grŵp bychan o gleifion sydd â phroblemau clinigol sydd angen rheolaeth benodol |
Cyfuno ar safonau | Heb gytuno ar safonau |
Cyfranogiad tîm da | Dibynnu ar un neu ddau unigolyn |
Bydd yn bosibl newid neu well | Ni fydd yn bosibl newid neu wella |
Nod
Ar y dechrau dylai’r tîm archwilio sefydlu pwrpas cyffredinol: clir, sail resymegol dros gynnal yr archwiliad. Bydd hynny yn helpu i sicrhau bod y canlyniadau yn gydnaws â’r bwriad cychwynnol yma ac yn hysbysu’r broses ddylid ei dilyn, pan ganfuwyd bod camau wedi bod angen eu cymryd ac y’u cymerwyd, er mwyn gwella gwasanaeth i gleifion. Drwy ystyried y camau gweithredu canlynol bydd yn haws i’r tîm ganolbwyntio ar gwestiwn yr archwiliad mewn ffordd benodol iawn (Buttery, 1998):
- Er mwyn gwella
- Er mwyn dyrchafu
- Er mwyn sicrhau
Er enghraifft:
- Er mwyn gwella mynediad at wasanaethau clinig i gleifion â chyflyrau cronig penodol
- Er mwyn cynyddu cyfran y cleifion â gorbwysedd y mae eu pwysedd gwaed o fewn y terfynau a argymhellir gan Ganllawiau Cymdeithas Gorbwysedd Prydain.
- Er mwyn sicrhau bod pob claf â COPD wedi cael cynnig imiwneiddiad yn erbyn y ffliw a niwmonia niwmococol
Amcanion
Mae amcanion yn diffinio eich nod yn fanylach drwy ddisgrifio elfennau unigol y gwasanaeth a ddarperir fydd yn cael ei archwilio drwy ddefnyddio methodoleg archwilio. Mae’n rhaid i amcanion fod yn glir, fel y gallwch ar ddiwedd y prosiect ddangos eich bod wedi eu bodloni. Er enghraifft, os mai’r nod oedd
Sicrhau bod pob claf a COPD wedi cael cynnig imiwneiddiad yn erbyn y ffliw a niwmonia niwmococol, gallai’r amcanion ar gyfer y prosiect fod;
- Er mwyn sicrhau bod yr holl gleifion sydd ar y gofrestr COPD wedi cael eu hadnabod a’u bod wedi eu cynnwys ar gofrestr effeithiol
- Er mwyn sicrhau bod yr holl gleifion ar y gofrestr COPD wedi cael eu himiwneiddio yn erbyn ffliw a niwmonia niwmococol
- Er mwyn sicrhau y cofnodwyd bod yr holl gleifion ar y gofrestr COPD, ond sydd wedi gwrthod imiwneiddiad, wedi ei wrthod
Er mwyn sicrhau y cysylltir â’r holl gleifion ar y gofrestr COPD ond nad ydynt wedi cael eu himiwneiddio yn erbyn ffliw a niwmonia niwmococol, ac nad oes ganddynt unrhyw gofnod eu bod wedi gwrthod imiwneiddiad, ac y cynigir apwyntiad iddynt.