Canllawiau manwl

Testun amrywiol gan gynnwys sgôp, profi, mesur gydag archwilio mewn glas

Mae adolygu yn elfen hanfodol o sicrhau ansawdd. Mae adolygiad strwythuredig sydd yn arwain at newid yn rhan hanfodol o wella ansawdd. Mae archwiliad clinigol systematig yn offeryn delfrydol ar gyfer adolygiad strwythuredig. I nifer mae’n gyfarwydd fel tasg feichus, yn ymarferiad ar bapur neu rywbeth i fodloni pobl eraill. O'i wneud yn dda mae’n fuddiol i weithwyr iechyd proffesiynol a staff ategol, ac mae’n arwain at well gofal i gleifion. Mae’n elfen greiddiol o brofi i chi eich hun ac i eraill bod sicrwydd ansawdd yn rhan o fywyd proffesiynol. Gall fod yn dystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus ac mae’n ddeunydd pwysig  a defnyddiol ar gyfer arfarniad.

Mae archwiliad clinigol yn greiddiol i lywodraethu clinigol.

Mae’n darparu’r mecanweithiau ar gyfer adolygu ansawdd y gofal a ddarperir i gleifion.

Mae'n adeiladu ar hanes hir o feddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill fu’n adolygu nodiadau achos ac yn chwilio am ffyrdd o wasanaethu eu cleifion yn well.

Mae’n mynd i’r afael â materion ynghylch ansawdd yn systematig a phenodol, gan ddarparu gwybodaeth ddibynadwy.

Mae’n annog datblygu a defnyddio meini prawf a safonau cytunedig.

Gall gadarnhau ansawdd gwasanaethau clinigol ac amlygu’r angen i wella. (NICE 2002).

Nod y cymhorthyn dysgu electronig yma ynghylch archwilio.

Dylai pob meddyg teulu fod yn monitro a, phan fo angen, yn gwella ansawdd y gofal maent yn ei ddarparu. 

Bydd y canllawiau archwilio yn annog ymarfer myfyriol ac yn datblygu’r sgiliau archwilio a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar gyfer arfarnu, ail-ddilysu, achredu practis, canllawiau Asiantaeth Diogelwch Cleifion Genedlaethol (NPSA) ac ymrwymiadau contract o dan y contract meddygon  teulu.

Mae archwilio yn fwyaf effeithiol pan fo hynny’n berthnasol i waith bob dydd, mor syml â phosibl o ran ei ddyluniad ac yn agored i newid.

Dylai fod yn seiliedig ar y dystiolaeth gyfredol orau sydd ar gael.

 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau