Myfyrio
Mae archwilio yn darparu cyfle i unigolion a thimau fyfyrio ar ansawdd y gofal maent yn ei ddarparu. Gall gynnig mewnwelediadau i gryfderau a gwendidau ac awgrymu meysydd i ddatblygu mwy ar berfformiad ac ymarfer.
Mae myfyrio ar beth mae canlyniadau’r archwiliad yn ei olygu i chi, eich practis, y gwasanaeth neu gleifion yn ran hanfodol o’r broses. Fel arfer dyma fyddai rhan olaf adroddiad yr archwiliad a dylai gynnwys sylwadau ar rai o’r canlynol neu’r cyfan:-
- Y broses ei hun
- Beth ddigwyddodd yn ystod y broses i’r unigolyn a’r tîm?
- A fu unrhyw fuddion neu heriau annisgwyl?
- A oedd yna uchafbwyntiau unigol i adrodd amdanynt? (e.e. claf unigol yn cael budd mawr na fydd o reidrwydd yn cael ei gynrychioli yn y data cyffredinol).
- Y tîm neu’r unigolyn
- A yw newidiadau yn angenrheidiol ar gyfer yr unigolyn neu’r tîm?
- A arenwyd rôl newydd yn y tîm?
- A oes yna faterion mewn perthynas â hyfforddiant?
- Yr effeithiau ar ofal cleifion
- A yw canlyniadau’r archwiliad yn dangos gwelliannau?
- A oes yna welliannau sydd dal angen eu gwneud?
- A ddylai’r canlyniadau gael eu rhannu â’r boblogaeth a astudiwyd, ac os dylai, sut?
- Yr effeithiau ar y system
- A oes yna unrhyw faterion neu lwyddiannau sydd yn effeithio ar fwy na’r boblogaeth a astudiwyd?
- A ddylid rhannu canlyniadau’r archwiliad yma gyda gweithwyr proffesiynol y tu allan i dîm y practis?
A nodwyd unrhyw gyfyngiadau yn y gwasanaeth sydd y tu hwnt i reolaeth yr awdur a’r tîm?
- Yr angen i barhau i astudio pwnc yr archwiliad
- A ddylai’r broses archwilio barhau i ddefnyddio’r un meini prawf a safonau?
- A oes angen ail archwilio’r meini prawf?
- A oes angen addasu’r meini prawf?
- Os yw’n briodol parhau gyda’r lefelau presennol, dylid nodi hynny yn bendant yn yr adran yma
- Pan na fydd archwiliad yn dangos gwelliannau neu ddirywiad mewn safonau
- Pam y digwyddodd hyn?
- A yw hynny yn dal yn destun pwysig ar gyfer gwella?
- A oedd y newidiadau a archwiliwyd yn ddiffygiol mewn unrhyw ffordd?
- A oes yna unrhyw beth ellid fod wedi ei wneud yn wahanol neu’n well?
Gall archwiliad ddatgelu bwlch mewn gwybodaeth a bydd o bosibl yn nodi meysydd ar gyfer dysgu mwy.