Casglu Data

graffiau coch a glas

Mae data yn aml yn cael ei ddal mewn nifer o gronfeydd data, ar bapur ac yn electronig, neu efallai na fydd yn cael ei gasglu o gwbl. Os na fydd y data sydd ei angen yn cael ei gasglu’n rheolaidd, gellir dyfeisio taflen bapur neu electronig benodol er mwyn i weithwyr gofal iechyd proffesiynol allu cofnodi gwybodaeth ychwanegol yn ystod pob ymgynghoriad (NICE 2002). Ond ni ddylid cofnodi data at ddibenion archwiliad yn unig, os nad oes iddo unrhyw werth clinigol neu sefydliadol o ganlyniad i’w defnyddio yn y broses archwilio.

Yn gyffredinol mae data ar gyfer archwiliadau yn cael ei gasglu yn ôl-weithredol, hynny yw beth amser ar ôl i’r gofal gael ei ddarparu. Yn nodweddiadol, mae’r data yn cael ei gasglu o gofnodion, a gellir ei echdynnu ar ffurflenni safonol neu ei roi yn uniongyrchol i gronfa ddata gyfrifiadurol. Dylid cytuno ymlaen llaw ar gyfnod amser y data sydd i’w echdynnu. Dylai’r cyfnod fod yn un pan ddigwyddodd gweithgaredd cyfartalog neu nodweddiadol (e.e. byddwch yn ofalus o ran edrych ar amseroedd aros pan fu absenoldeb sylweddol oherwydd gwyliau neu salwch (er y gallai’r naill neu’r llall fod yn rheswm dilys dros archwilio amseroedd aros), cofnodi rhagnodiadau ar gyfer gwrth histaminau yng nghanol gaeaf (fel yn achos y tymor clwy gwair).

Cofiwch sicrhau cyfrinachedd data cleifion unigol bob amser (gweler Egwyddorion Caldicot) A chesglwch wybodaeth sydd ei hangen yn unig.

Ble mae canfod y data? (Fel arfer bydd y data ar gael mewn cofnodion clinigol electronig) 

  • Data ymarfer electronig (Cofnodion clinigol / QoF)
  • Templedi

Mae PCQIS wedi datblygu templedi archwilio a dyluniwyd i gynorthwyo practisau i gofnodi’r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer monitro ystod o wasanaethau yn cynnwys rhai sydd yn ymwneud â gwasanaethau uwch.  Pan y’u darperir, mae templedi yn cynnig dull cyson o gofnodi data o ran y math o ddata sydd ei angen i gefnogi prosesau gofal, ac o ran y dull cofnodi sydd yn seiliedig ar set cyffredin o godau READ.

Mae ffynonellau eraill yn cynnwys

  • Data allanol (LHB / gofal Eilaidd neu Gymunedol)
  • Cofnodion cleifion â llaw
  • Dadansoddiad o weithgaredd practis (apwyntiadau etc.)
  • Arolygon (Bodlonrwydd cleifion)
  • Cyfweliadau
  • Arsylwadau uniongyrchol

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau