Llythyrau atgyfeirio 1

Archwilio llythyrau atgyfeirio, rhesymau dros atgyfeirio

Meddyg wrth ddesg yn ysgrifennu o flaen potel, afal a mwg

Gall meddyg ddefnyddio’r adran hon i archwilio a myfyrio ar y rhesymau dros atgyfeirio. Mae yna nifer o ffactorau sydd yn dylanwadu ar gais meddyg am ail farn, nad ydynt o reidrwydd yn gysylltiedig ag angen clinigol. Gall y broses fyfyriol eich helpu i adnabod y meysydd yma sydd yn dylanwadu arnoch a gallai hynny amlygu anghenion dysgu.

Defnyddiwch y templed isod a’i chwblhau mor llawn â phosibl ar gyfer y deg atgyfeiriad nesaf yr ydych yn eu gwneud (gallech naill ai ganolbwyntio ar un arbenigedd  sydd yn gwneud i chi deimlo yn “anghyfforddus” neu gallwch ddadansoddi eich deg atgyfeiriad nesaf).  

Noder bod yr enghraifft yma yn archwiliad pum cam yn unig, ond dylai fod yn eithaf syml i’w newid i archwiliad wyth cam drwy ailadrodd y cam casglu data fesul cyfnodau.

Templed Rhesymau Dros Atgyfeirio

A oes yna unrhyw faterion yr hoffech eu cofnodi ynghylch yr atgyfeiriadau uchod?

A oes yna unrhyw bwyntiau dysgu?

 Enghraifft o Resymau Dros Atgyfeirio

A oes yna unrhyw faterion yr hoffech eu cofnodi ynghylch yr atgyfeiriadau uchod?

Drwy gofnodi fy meddyliau ynghylch atgyfeirio roeddwn yn synnu bod nifer o’r atgyfeiriadau yma yn deillio’n bennaf o ganlyniad i bwysau gan gleifion neu berthnasau. Cynhyrchwyd y 10 atgyfeiriad yma yn ystod cyfnod o 3 wythnos pryd yr oeddwn wedi ymgynghori â 162 o gleifion. At ei gilydd mae fy nghyfraddau atgyfeirio yn fy mhractis yn gymharol â chyfraddau fy mhartneriaid. Mae’r clinig a gynhelir gan y nyrs ar gyfer asesu nebiwleiddwyr yn adnodd da, ac mae gennym glinigau cyffelyb ar gyfer trosi i inswlin, sigmoidosgopi a dermatoleg paediatreg.

A oes yna unrhyw bwyntiau dysgu?

Mae angen imi archwilio’r canllawiau ar gyfer llawdriniaeth tonsilaidd er mwyn gallu cynghori cleifion eraill yn briodol. Tybed a oes angen i mi fod yn ychydig mwy cadarn wrth ddelio â chleifion a archwilir yn rhannol yn unig, er enghraifft y claf a atgyfeiriais  heb berfformio spirometreg (efallai bod hynny hefyd yn arwydd o fy ngwybodaeth wael am ddehongli spirometreg),  a chleifion gaiff ond eu trin yn rhannol -  plentyn ifanc ag ecsema a’r mater ynghylch rhagnodi tacrolimus.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau