Llythyrau atgyfeirio 3

Archwilio llythyrau atgyfeirio, cynnwys

Meddyg wrth ddesg yn ysgrifennu o flaen potel, afal a mwg

Awgrymir eich bod yn edrych yn fanwl ar 10 llythyr atgyfeirio yr ydych wedi eu hysgrifennu yn olynol. Bydd y person yr ydych wedi ei atgyfeirio ato yn cyfarfod â’r claf am y tro cyntaf (fel arfer) ac mae hanes llawn am y claf yn bwysig. Gwiriwch y llythyrau atgyfeirio am y manylion canlynol, ac os yn briodol awgrymwch newidiadau. Efallai y byddwch yn dymuno cynnwys eich myfyrdodau am y materion  a nodwyd a’r pwyntiau dysgu ar dempled ffurflen arfarnu ar-lein 3, a chynnwys eich dadansoddiad fel dogfennaeth ategol ychwanegol.

Gellir defnyddio’r offeryn yma yr un mor llwyddiannus gan feddyg teulu sydd yn gweithio  fel locwm neu gan bartner mewn practis

Noder bod yr enghraifft yma yn archwiliad pum cam yn unig, ond dylai fod yn eithaf syml i’w newid i archwiliad wyth cam drwy ailadrodd y cam casglu data fesul cyfnodau.

Templed archwilio cynnwys llythyrau atgyfeirio 

Dylai dadansoddiad o lythyrau atgyfeirio gynnwys:

  • Hanes y deg atgyfeiriad diwethaf:
    • Materion a nodwyd
    • Pwyntiau dysgu

 Enghraifft o archwilio cynnwys llythyrau atgyfeirio 

Materion a nodwyd

Roeddwn bob amser wedi meddwl fy mod yn ysgrifennu llythyrau atgyfeirio cynhwysfawr oedd yn cynnwys yr holl fanylion perthnasol. Archwiliais 10 llythyr atgyfeirio chwe mis ar ôl i mi eu hysgrifennu ac roeddwn yn synnu at beth o’r manylion yr oeddwn heb ei gynnwys. Nid oedd dau o’r llythyrau atgyfeirio yn cynnwys hanes y gwyn er bod hynny wedi ei ddogfennu ar y cyfrifiadur. Yn y pedwar llythyr na chofnodwyd hanes meddygol ynddynt dim ond un claf oedd yn cymryd meddyginiaeth. Nid oeddwn wedi cyfeirio at ganfyddiadau archwiliadau ddwy waith - yn y ddau achos dogfennwyd canfyddiadau archwilio a chanlyniadau profion negyddol. Dim ond yn achos un claf ni ddogfennwyd hanes seicogymdeithasol perthnasol (marwolaeth cymar yn ddiweddar) ac mewn dau achos hepgorwyd hanes meddygol perthnasol.

Pwyntiau dysgu

Roeddwn yn synnu o weld mai dim ond 3 o’r 10 llythyr oedd yn bodloni’r meini prawf ac mae’n rhaid i mi gyfaddef bo yna un llythyr na fyddai wedi rhoi digon o wybodaeth fyddai’n helpu meddyg mewn ymgynghoriad. Mae’r dadansoddiad yma wedi fy helpu i edrych yn feirniadol ar yr elfen bwysig yma o fy ymarfer ac rwyf wedi gwneud y newidiadau canlynol:-

  • Rwyf wedi argraffu cerdyn gyda’r 6 maen prawf arno ac wedi ei ludo ar flaen fy nictaffon er mwyn fy atgoffa.
  • Rwyf wedi newid y ffordd yr wyf yn trefnu fy atgyfeiriadau - roeddwn yn arfer eu gadael i gyd tan ddiwedd yr wythnos. Erbyn hyn rwyf yn eu harddweud ar ddiwedd fy shifft yn y feddygfa. Mae hynny mewn gwirionedd yn llai o straen oherwydd mai dim ond un neu ddau sydd i’w gwneud a bydd y cleifion yn ffres yn fy meddwl.

Rwyf yn bwriadu ailadrodd yr ymarfer yma ymhen blwyddyn er mwyn sicrhau bod y newidiadau yr wyf wedi eu gwneud yn para.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau