Y cylch archwilio

Y cylch archwilio

Camau proses archwiliad:

Mae’r cylch yn mynd drwy’r gwahanol gamau er mwyn cyrraedd pwynt terfynol penodol pan fo’r cam cyntaf wedi ei gwblhau. Yna mae’r cylch yn ailgychwyn drwy ailddiffinio’r meini prawf, pennu safonau newydd os yn briodol a chasglu data newydd fydd yn dangos a yw’r newidiadau a gynigiwyd wedi bod yn effeithiol. Mae’r diagram uchod yn darlunio archwiliad pum cam; gelwir hyn hefyd ar brydiau yn  gylch archwiliad cyntaf. Fel arfer disgwylir i archwiliad a ddefnyddir at ddibenion ail-ddilysu gynnwys wyth cam a fesurir fel arfer yn erbyn yr un meini prawf, ond gan ychwanegu ail gam o gasglu data, cymharu’r data a gasglwyd y tro cyntaf a’r ail dro, sylwadau ar welliannau a wnaed a llunio casgliad sydd yn adlewyrchu’r gwersi a ddysgwyd a’r effaith debygol ar y system a fesurir. Ond, mae mathau eraill o weithgaredd Gwella Ansawdd hefyd yn addas.

Strwythur, proses a deilliant.

3 o bobl yn eistedd wrth fwrdd yn edrych ar ddogfen

Mae cytundeb ynghylch yr angen i wella ansawdd mewn gofal iechyd yn cael ei dderbyn yn gyffredinol; ond nid yw’r ddealltwriaeth yn dda ynghylch y dull o gyflawni gwelliant effeithiol o ran gofal cyffredinol. Datblygodd Avedis Donabedian y fframwaith strwythur-proses-deiliant sydd yn annog ystyried prosesau gwella ansawdd (Donabedian 1998).

Yn aml mae perfformiad yn cael ei rannu yn dair elfen: strwythur (beth sydd ei angen arnoch), proses (beth ydych n ei wneud) a deilliant gofal (beth ydych yn ei ddisgwyl). Gallwch ddewis canolbwyntio ar un o’r tair elfen yma, neu efallai y byddwch yn llifo o un i’r llall  er mwyn cynnwys y tair elfen yn eich dyluniad wrth lunio’r meini prawf a’r safonau priodol (Glickman et al (2007), Irvine & Irvine (1991), Wakley & Chambers (2005).

Methodoleg archwilio

Wrth ddyfeisio prosiect archwilio, ar y cychwyn dylid ystyried y fethodoleg ddylai gael ei fapio’n glir a dylid diffinio’r nod a’r amcanion, datblygu meini prawf, pennu safonau, pennu gofynion data, a sut mae’n cael ei gasglu a’i goladu. Yn olaf, cytunwch ar broses ar gyfer dadansoddi ac adrodd ar y canlyniadau cyn cynnal trafodaethau tîm mewn perthynas â'r adolygiad o ganfyddiadau’r archwiliad, argymhellion a chynllunio newidiadau. Mae’n bwysig bod y fethodoleg wedi ei dogfennu’n dda a bod cynnydd yn cael ei gofnodi’n llawn, gan nodi unrhyw addasiadau i’r cynllun archwilio gwreiddiol. Mae’r pwynt olaf yma yn allweddol i feddygon sydd yn cynnig prosiect archwilio fel tystiolaeth o ddysgu myfyriol a datblygiad proffesiynol parhaus.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau