Safonau
Y safon: disgrifiwch y lefel gofal y dyhëir ei chyrraedd ar gyfer unrhyw faen prawf penodol
Un enghraifft fyddai y dylai 80% o bobl â CHD fod wedi cael prawf cyfanswm colesterol o fewn y 12 mis diwethaf.
Gall lefel y safon weithiau fod yn bwnc dadleuol, yn arbennig ar ddechrau proses archwilio, ac argymhellir y sefydlir cytundeb ymysg y grŵp prosiect archwilio ynglŷn â'r safonau fydd yn cael eu mabwysiadu. Wrth gymhwyso safonau argymhellir ystyried y 3 opsiwn canlynol;
Safon ddelfrydol:
Y gofal ddylai fod yn bosibl ei roi o dan amodau delfrydol, heb unrhyw gyfyngiadau
Safon optimwm:
Mae hyn yn cynrychioli safon gofal sydd yn fwy tebygol o gael ei chyrraedd o dan amodau ymarfer arferol
Safon gofynnol:
Y safon perfformiad derbyniol isaf
At ei gilydd, dylid pennu safonau ar lefel optimwm o leiaf ac yn amlwg dylid ymdrechu i gyrraedd y delfrydol, gan dderbyn y ffaith os gosodir safanau delfrydol penodol, na fydd y broses archwilio fyth yn cyrraedd y lefel honno
Wrth ystyried gwasanaeth newydd, neu wrth archwilio ymarfer am y tro cyntaf mewn maes penodol, gellir mabwysiadu safonau gofynnol, ond wrth i amser fynd yn ei flaen dylid codi’r safon yn ôl yr hyn sy’n briodol
O ble daw safonau?
Defnyddiwch safonau a diffinnir gan eraill os gallwch wneud hynny oherwydd bod hynny yn arbed amser ac egni. Ond, gwiriwch eu bod yn gymwys i’ch poblogaeth a’u bob o ffynhonnell gredadwy. Efallai y cyhoeddwyd safonau cenedlaethol, megis y rhai a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Efallai y byddwch yn canfod erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid sydd yn cynnwys safonau a argymhellir, neu cysylltwch â PCQIS fydd yn gallu rhoi’r wybodaeth hon i chi. Sicrhewch eu bod yn dderbyniol i bawb yn eich tîm a bod pawb yn ymrwymo i’w cyrraedd.
Cofiwch!
Er mwyn i feini prawf/safonau fod yn ddilys ac arwain at well gofal, mae’n rhaid iddynt fod yn:
- Seiliedig ar dystiolaeth
- Cysylltiedig ag agweddau o ofal sydd yn bwysig
- Mesuradwy